Chris Coleman yw rheolwr pêl-droed newydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coleman wedi cael profiad o reoli yn Lloegr, Sbaen a Gwlad Groeg

Fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod Chris Coleman wedi ei benodi'n rheolwr newydd tîm Pêl-Droed Cymru.

Mae'n olynu Gary Speed fu farw ym mis Tachwedd.

Yn y gynhadledd newyddion dywedodd Coleman fod y penodiad yn "gwireddu breuddwyd" ond mai hon oedd y "gynhadledd anodda'" iddo fod ynddi.

"... mae hyn yn gyffrous ond rydym yn dal i alaru," meddai.

"Yr unig ffordd i roi gwên yn ôl ar yr wyneb yw parhau i ennill gemau ond dwi ddim yn credu y byddwn ni fyth yn dod dros golli Gary.

"Dwi'n falch oherwydd y swydd ond mae'r amgylchiadau'n anodd.

'Ddim yn hawdd'

"Fydd hi ddim yn hawdd ond dwi'n edrych ymlaen."

Cychwynnodd Coleman ei yrfa reoli gyda Fulham yn 2003, gan dreulio pedair blynedd yn Craven Cottage.

Cafodd gyfnod gyda thîm Real Sociedad yn Sbaen, Coventry a Larissa yng Ngwlad Groeg.

Coleman yw'r 12fed rheolwr parhaol i Gymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Jonathan Ford, fod dewis olynydd i Speed wedi bod yn "anodd".

"Rydym wedi ystyried pob opsiwn a hynny yn sensitif a heb ruthro i benderfyniad.

"Rydym wedi ystyried meddyliau a sylwadau'r tîm cynorthwyol, y chwaraewyr a'r cefnogwyr.

"Doedden ni ddim am fod yn rhan o'r drafodaeth gyhoeddus am olynydd Gary Speed o ran parch.

"Gary oedd rheolwr y tîm cenedlaethol ac, wrth gwrs, rydym am barhau gyda'i weledigaeth.

"Fe oedd y rheolwr nid rhyw arweinydd mewn enw a dyna pam ein bod ni wedi penderfynu apwyntio Chris Coleman i adeiladu ar waith gwych Gary Speed."

Fe enillodd 32 o gapiau i Gymru a chwarae mewn 28 o'r gemau gyda Gary Speed oedd yn ffrind agos.

Dydi Coleman ddim wedi rhoi manylion am y tîm rheoli.

Dywedodd Gareth Blainey, Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, fod 'na fwy o amheuaeth am ddyfodol Raymond Verheijen ond ei fod yn credu y byddai Osian Roberts yn parhau fel Cyfarwyddwr Technegol y gymdeithas.

Fe fydd Cymru yn wynebu Costa Rica mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29.

"Dwi'n credu y bydd Coleman yn y cefndir ar gyfer y gêm honno, gêm sy'n deyrnged i Gary Speed," meddai'r gohebydd.

'Anffodus'

"Fe fydd o'n cynnal trafodaethau gyda Verheijen a Roberts yn y dyddiau nesaf ond dwi'n credu y bydd yn dymuno dod â'i gyfaill a'i gyn-gydchwaraewr Kit Symonds fel is-hyfforddwr.

"Yn ystod y gynhadledd fe wnaeth Coleman amddiffyn ei record fel rheolwr a dwi'n credu ei fod wedi bod yn anffodus cael ei ddiswyddo gan Coventry ac fe adawodd Sbaen a Gwlad Groeg oherwydd materion oddi ar y cae pêl-droed."

Cychwynnodd Coleman, 41 oed, ei yrfa fel chwaraewr gyda thîm ei ddinas enedigol Abertawe yn 17 oed.

Roedd wedi ennill capiau dros ei wlad fel plentyn ysgol ac roedd wedi cael ei arwyddo gan Manchester City ond oherwydd hiraeth dychwelodd i Abertawe.

Chwaraeodd dros 200 o weithiau dros y clwb ac ennill Cwpan Cymru ddwywaith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol