Y pedwar yn y ffrâm

  • Cyhoeddwyd

Mae'r enwebiadau ar gyfer pwy fydd yn olynu Ieuan Wyn Jones fel arweinydd Plaid Cymru wedi cau.

Mae 'na bedwar ymgeisydd fydd yn annerch cyfarfodydd cyn i aelodau, unrhyw un sydd wedi ymuno cyn hanner nos nos Iau Ionawr 26, bleidleisio.

Bydd y cyhoeddiad ar Fawrth 15 yng Nghaerdydd.

Elin Jones

Ffynhonnell y llun, Other

Canolbwyntio "ar agor drysau Plaid Cymru i bob person yng Nghymru" y bydd Elin Jones.

"Rydw i am sicrhau drwy Gymru gyfan ein bod ni'n gallu apelio at bobl o bob cefndir, gan gynnwys pobol sydd ddim wedi pleidleisio dros Blaid Cymru ond sy'n rhannu fy ngweledigaeth am newid hefyd.

"Yn y pen draw ein huchelgais yw gwneud Cymru yn wlad annibynnol lwyddiannus."

Mae hi hefyd wedi dweud y byddai buddugoliaethau i Blaid Cymru yn etholiadau 2016 a 2020 yn ddigon o fandad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Ffynhonnell y llun, Other

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas oedd y cyntaf i gael ei enwebu'n ffurfiol a hynny gan Bwyllgor Etholaeth Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd.

Dywedodd Lis Puw, Cadeirydd y Pwyllgor Etholaeth: "Mae eisoes wedi profi ei allu i wasanaethu pob rhan o Gymru fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol am 12 mlynedd lle dangosodd benderfyniad i ymwreiddio sefydliad newydd yn gadarn yng nghalonnau a meddyliau pobl Cymru.

"Rydym yn hyderus y bydd fel arweinydd y blaid yn gweithio i gynrychioli pobl ym mhob rhan o Gymru.

"Dywedodd eisoes mai'r etholiad cyffredinol i gynghorau dinas, siroedd a chymunedau Cymru yw ei flaenoriaeth ar gyfer 2012 ac rydym yn hyderus y gall Plaid Cymru dan ei arweiniad fod yn rym gwirioneddol i gryfhau democratiaeth Cymru."

Simon Thomas

Ffynhonnell y llun, Other

Mae Simon Thomas yn gyn-Aelod Seneddol ac roedd yn ymgynghorydd i Blaid Cymru yn y llywodraeth glymblaid.

Ceisio bod yn arweinydd fydd yn sicrhau consensws yw ei nod.

"Mae 'na deimlad o fewn y blaid nad ydyn ni wedi gwneud y mwyaf o'r ffaith ein bod ni wedi bod mewn llywodraeth.

"Efallai na wnaeth y blaid ddathlu'r ffaith yn ddigonol a chymryd y clod am yr hyn gyflawnwyd mewn llywodraeth.

"Mae angen i'r arweinydd nesaf fod yn rhywun sy'n gallu gweithio gyda phobol â barn wahanol a dod â nhw at ei gilydd."

Leanne Wood

Ffynhonnell y llun, Other

Yr Aelod dros Ganol De Cymru, Leanne Wood yw'r ymgeisydd arall.

Bu'n Aelod Cynulliad ers 2003 ac mae'n dweud y bydd hi'n canolbwyntio ar yr economi er mwyn symud Cymru ymlaen at "wir annibyniaeth".

"Mae fy mhrofiad uniongyrchol o ddirwasgiad a'i effaith yn ystod y 1980au yn fy ngwneud yn benderfynol o sicrhau nad ydyn ni'n colli cenhedlaeth arall eto oherwydd diweithdra ymhlith yr ifanc.

"Mae mynd i'r afael â'r heriau economaidd hynny yn rhywbeth sy'n mynd law yn llaw gyda'n taith ni tuag at annibyniaeth."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol