Plaid: Pedwar yn y ras i arwain Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd

Pedwar ymgeisydd sydd 'na ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Fe fydd Dafydd Elis-Thomas, Elin Jones, Simon Thomas a Leanne Wood am olynu Ieuan Wyn Jones yn arweinydd Plaid Cymru.

Mae disgwyl i'r enillydd gael ei gyhoeddi yng Nghaerdydd ar Fawrth 15.

Y system bleidlais amgen fydd yn cael ei defnyddio.

Fe wnaeth yr enwebiadau ar gyfer yr arweinydd agor ar Ionawr 3 a chau am hanner nos nos Iau Ionawr 26.

Bydd cyfres o gyfarfodydd yn ystod mis Chwefror lle bydd y pedwar yn cymryd rhan cyn i'r papurau pleidleisio gael eu hanfon i bob aelod ddiwedd y mis.

'Ymgeiswyr cryf'

"Rydw i'n falch iawn fy mod i'n gallu cyhoeddi bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid," meddai Rhuanedd Richards, Prif Weithredwr Plaid Cymru a'r Swyddog Etholiadol yn yr etholiad.

"Dyma i chi bedwar ymgeisydd cryf iawn sydd yn awyddus i arwain ein plaid.

"Mae'r etholiad eisoes wedi creu cryn gyffro.

"Ac mae'r ffaith fod cynifer o bobl wedi dewis ymuno â'r blaid er mwyn bod yn rhan o'r broses a symud y blaid a Chymru yn eu blaenau yn argoeli'n dda iawn.

"Mae yna dwf aruthrol wedi bod yn aelodaeth y blaid dros y misoedd diwethaf."

Mae'r pedwar ymgeisydd yn Aelodau Cynulliad, Elin Jones yng Ngheredigion a Dafydd Elis-Thomas yn Nwyfor Meirionnydd.

Aelod Canolbarth a Gorllewin Cymru yw Simon Thomas ac mae Leanne Wood yn aelod Canol De Cymru.

Ieuan Wyn Jones sydd wedi arwain grŵp Plaid yn y Cynulliad ers 2000 a llwyddodd i wrthsefyll ymgais i'w ddisodli yn 2003.

Ym mis Mai cyhoeddodd ei fwriad i ildio'r awenau wedi canlyniadau siomedig yn Etholiad y Cynulliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol