'Cwmnïau Cymreig ar eu colled'

  • Cyhoeddwyd
Unigolyn yn defnyddio cyfrifiadurFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau'n dangos fod hyd at 40% o fusnesau bach Cymreig heb wefan

Mae cwmni Google yn honni y bydd cwmnïau Cymreig ar eu colled os na fyddant yn cynyddu eu presenoldeb ar y we.

Mae ffigyrau'n dangos fod hyd at 40% o fusnesau bach Cymreig heb wefan a'u bod ar eu hôl hi o'i gymharu â busnesau yn weddill y Deyrnas Unedig.

Daw'r rhybudd wrth i'r cwmni chwilota ar y we gyhoeddi ymgyrch blwyddyn ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i annog mwy o fusnesau i ddefnyddio'r we.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog busnesau i ddefnyddio technoleg ddigidol i "dyfu, arloesi a dod i hyd i farchnadoedd newydd".

'Archwiliad iechyd digidol'

O fis Mawrth bydd Google, sydd erbyn hyn yn un o gwmnïau mwyaf y byd, yn anfon tîm i Gymru am 12 mis i hybu buddiannau presenoldeb ar y we i fusnesau.

Mae'r cynllun yn bwriadu cynnig cyngor un i un i fusnesau bach a chanolig ynglŷn â sut i hyrwyddo eu hunain ar y we neu wella eu presenoldeb ar-lein.

Yn ystod tri mis cynta'r cynllun fe fydd Google yn lansio sioe deithiol o arbenigwyr fydd yn cynnig "archwiliad iechyd digidol" gan gynnwys cyngor, tiwtorialau a gweithdai.

Dywedodd Google fod ffigyrau Llywodraeth y DU yn dangos nad oedd gan 83,000 o fusnesau Cymru wefan i hyrwyddo eu nwyddau a'u gwasanaethau.

"Rydych chi ar eich colled os nad ydych chi ar y we," meddai Laurian Clemence o Google.

'Perchnogion busnesau bach'

Dywedodd Ms Clemence fod y cwmni yn gobeithio y byddai o leiaf 1,000 o fusnesau yn creu gwefannau yn sgil y sioe deithiol.

"Rydyn ni'n credu bod mwy o fuddiannau nac anfanteision.

"Mae busnesau sy'n cael eu hyrwyddo ar y we yn datblygu rhwng pedwar i wyth gwaith yn gyflymach na'r rheiny sydd heb bresenoldeb ar-lein.

"Sylweddolon ni fod busnesau bach a chanolig Cymreig ar eu hôl hi o ran presenoldeb ar y we.

"Mae yna lawer o gyfleoedd yno i'w helpu creu gwefan am y tro cyntaf neu wella'u gwefannau cyfredol."

Mae'r ymgyrch yn gobeithio hyfforddi tîm o arbenigwyr i gynghori perchnogion busnesau bach.

Dywedodd Gweinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart: "Rydyn ni'n croesawi'r fenter hon i helpu cwmnïau gael y buddiannau mwyaf wrth iddynt ddefnyddio ac ymelwa ar dechnoleg ddigidol i dyfu, arloesi a dod i hyd i farchnadoedd newydd, gan helpu cynyddu eu busnes.

"Mae gan dechnolegau digidol a gwasanaethau ar-lein y potensial i chwyldroi ysfa gystadleuol busnesau ac rwy'n gobeithio y bydd nifer fawr ohonynt yn manteisio ar yr arbenigedd mae Google yn cynnig."

Bydd y digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd rhwng 4pm a 7pm ar Fawrth 6.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol