Galw ar Stephen Jones i ymuno â charfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr mwyaf profiadol tîm rygbi Cymru, Stephen Jones, wedi'i alw i ymuno â'r garfan ryngwladol sy'n hyfforddi ar hyn o bryd yng Ngwlad Pwyl.
Mae 'na amheuaeth o hyd am ffitrwydd Rhys Priestland, sy'n dioddef gydag anaf i'w ben-glin.
Mae James Hook hefyd wedi gorfod dychwelyd i Ffrainc ar gyfer ei ddyletswyddau gyda'i glwb, Perpignan.
Teithiodd Jones i'r ganolfan hyfforddi yn Gdansk er mwyn cynnig mwy o ddewis i'r tîm hyfforddi.
Mae Cymru yn treulio'r wythnos yno yn paratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a fydd yn cychwyn yn Nulyn yn erbyn Iwerddon ar Chwefror 5.
Jones yw'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer mwya o gapiau dros Gymru, 104.
Ond doedd o ddim wedi cael ei enwi yng ngharfan 35 dyn Warren Gatland.
Pwysleisiodd Gatland ar y pryd nad oedd Jones wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol ac y byddai ar gael petai angen.
Mae gan Gatland opsiwn o chwarae Gavin Henson fel maswr ond dydi o ddim wedi gwisgo'r crys rhif 10 yn y tair gêm y mae o wedi ei chwarae i'w glwb newydd Y Gleision.
Mae'r prop Gethin Jenkins a'r ddau glo Alun Wyn Jones a Luke Charteris yn mynd i fethu'r daith i Iwerddon oherwydd anafiadau ac mae 'na amheuaeth hefyd am Dan Lydiate a Jamie Roberts.