Dyfodol porthladdoedd a meysydd awyr
- Cyhoeddwyd
Bydd ymchwiliad yn archwilio pwysigrwydd porthladdoedd a meysydd awyr Cymru i economi Cymru, a sut y gellid datblygu eu potensial.
Mae Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn archwilio a yw potensial porthladdoedd a meysydd awyr Cymru'n cael ei rwystro, sut y gellid cyflawni'r potensial hwnnw'n well, a pha mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru wrth gefnogi eu datblygiad.
Maen nhw nawr yn galw am dystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad,
Cafwyd cwymp o 10% yn nifer y teithwyr ym maes awyr Caerdydd yn 2010, cyn i wasanaethau BMI Baby ddod i ben yno, ynghyd â chwymp o 84% mewn traffig cludo nwyddau.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi ar borthladdoedd a meysydd awyr yng Nghymru, ond mae gan Weinidogion Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau penodol mewn perthynas â materion fel cysylltiadau trafnidiaeth, polisi cynllunio, a grantiau a chymorth ariannol o fathau eraill.
'Uchelgeisiau'
Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: "Mae Cymru'n ceisio codi ei phroffil ar lwyfan y byd fwyfwy drwy sefydlu ei hunaniaeth fel gwlad ddatganoledig, a thrwy wella cysylltiadau masnach a thwristiaeth rhyngwladol.
"Os nad yw Cymru'n gallu cysylltu â'r byd drwy ei phorthladdoedd a'i meysydd awyr, mae'n anoddach byth cyflawni ein huchelgeisiau.
"Bwriad yr ymchwiliad hwn yw ateb y cwestiynau allweddol am ddyfodol a photensial ein porthladdoedd a'n meysydd awyr: beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i'w cefnogi, ac i ba raddau y mae Gweinidogion Cymru'n gweithio gyda'u cymheiriaid yn Llywodraeth y DU i gefnogi eu datblygiad?"