Dyfodol y Gymraeg a thechnoleg
- Cyhoeddwyd
Siapio dyfodol y Gymraeg ar y we yw nod cynhadledd arbennig yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
'Hacio'r Iaith' yw teitl y gynhadledd, ac fe fydd yn rhoi sylw i'r dechnoleg ddiweddaraf a'i pherthynas gyda'r iaith Gymraeg.
Bydd y gynhadledd yn trin a thrafod ystod o bynciau, gan gynnwys newyddiaduraeth leol yn yr oes ddigidol, celf a diwylliant ar-lein, ymgyrchu, e-lyfrau a datblygu meddalwedd rydd ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Bydd Hacio'r Iaith ar ffurf cynhadledd agored, sy'n golygu y gall unrhyw un gymryd rhan ynddi a siarad ar bwnc o'u dewis nhw.
Fe fydd croeso i gyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg er mai prif ffocws y digwyddiad yw'r defnydd o dechnoleg ar y we gan siaradwyr Cymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd ar gyfer dysgwyr.
'Brwdfrydedd'
Dywedodd un o gydlynwyr Hacio'r Iaith, Rhys Wynne: "Mae Hacio'r Iaith yn ddigwyddiad sy'n gofyn i bawb gymryd rhan ynddo.
"Byddwn yn sicr o ddarganfod syniadau a phosibiliadau newydd ar gyfer y Gymraeg ar y rhyngrwyd, yn ogystal â thrin a thrafod datblygiadau newydd.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb sy'n ymwneud â'r iaith a thechnoleg gyda'u gliniaduron a llond trol o frwdfrydedd."
Bydd Hacio'r Iaith yn digwydd yn Adeilad Parry Williams, Prifysgol Aberystwyth o 9am tan 7pm ddydd Sadwrn.