Cwest: 'Damwain o bosib'
- Cyhoeddwyd
Wrth gofnodi rheithfarn naratif, mae crwner wedi dweud na allai gasglu a oedd marwolaeth Gary Speed yn fwriadol neu'n ddamweiniol.
Yn y cwest yn Warrington dywedodd ei weddw, Louise, fod y swydd newydd, rheoli Tîm Pêl-droed Cymru, wedi bod yn straen ar y briodas a'u bod nhw wedi "cael dadl" y noson cyn iddo farw.
Cafwyd hyd i gorff y dyn 42 oed yn ei gartref yn Huntington ger Caer ym mis Tachwedd.
Dywedodd hi ei bod wedi gyrru ei char ar ôl y ddadl ond nid oedd modd iddi fynd i mewn i'r tŷ am 1.30am.
Treuliodd y noson yn ei char ac yn y bore daeth o hyd i'w gorff yn y garej.
Dywedodd hi nad oedd wedi gadael nodyn.
Bedwar diwrnod ynghynt, meddai, roedd e wedi anfon neges destun "yn cyfeirio yn nhermau lladd ei hun" ond wedi ei wfftio oherwydd y plant.
'Normal'
Yn y cwest cafodd pum datganiad eu darllen, gan gynnwys un Alan Shearer, ei ffrind a chyn-gapten Lloegr.
Dywedodd ei fod wedi dweud wrth Speed fod straen ar briodas yn "normal" mewn perthynas hir.
Roedd wedi gweld Speed y dydd Sadwrn cyn iddo farw, hynny yw pan oedd ar raglen Football Focus.
"Ac roedd yn chwerthin ac yn dweud jôcs.
"Pan ges i wybod am ei farwolaeth doedd hyn ddim yn gwneud synnwyr ac nid yw'n gwneud synnwyr."
Dywedodd Dr Bob Muggleton, swyddog meddygol Sheffield United, y clwb yr oedd Speed yn ei reoli cyn cael swydd Cymru, nad oedd y rheolwr wedi cyfeirio at broblemau iechyd meddwl.
Mewn datganiad dywedodd mam Speed, Carol, fod ei mab wedi dweud mai rheoli tîm ei wlad oedd "yr anrhydedd fwya".
Doedd ei mab ddim yn optimist, meddai.
"Pan ges i'r alwad ffôn oddi wrth fy merch-yng-nghyfraith hon oedd moment waetha fy mywyd."
Ar ôl y cwest darllenodd Prif Weithredwr Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair, Richard Bevan, ddatganiad ar ran y teulu.
Dywedodd y teulu eu bod yn addasu i fywyd heb ŵr, tad, brawd a mab a'u bod yn ddiolchgar i Gymdeithas Pêl-droed Cymru am drefnu'r gêm goffa.
"Diwrnod ei farwolaeth, dydd Sul, Tachwedd 27, oedd yr un gwaetha yn ein bywydau ni.
"Ers naw wythnos rydym wedi profi cyfnodau tywyll ac mae pob aelod o'r teulu wedi gorfod dygymod â hwy.
" ... mae'r cof amdano'n disgleirio yn ein meddyliau ac am byth byddwn ni'n cofio'r adegau hyfryd gydag e a'i gariad dwfn yn ein teulu clos.
"Ac mae'n fendith fod gennym gwir ffrindiau sy'n ein helpu i ddod i delerau â'r golled."
Dywedodd y teulu eu bod yn gwerthfawrogi'r holl deyrngedau i Gary.
"Rydym yn ddiolchgar i'r modd y mae'r cyfryngau wedi parchu ein preifatrwydd."
Yn arbennig, meddai'r teulu, roedden nhw'n ddiolchgar i Heddlu Sir Gaer, y crwner, Mr Nicholas Rheinberg, asiant Gary, Melissa Chappell, a Chymdeithas Rheolwyr y Gynghrair.
Crogi
Cafodd cwest blaenorol ei agor a'i ohirio yn fuan wedi ei farwolaeth ac roedd cadarnhad mai ei wraig ddaeth o hyd i'w gorff ychydig cyn 7am ar Dachwedd 27.
Nid yw'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Clywodd y cwest blaenorol hefyd mai achos ei farwolaeth oedd iddo gael ei grogi.
Daeth teyrngedau lu o'r byd chwaraeon pan ddaeth y newyddion am ei farwolaeth.
Cafodd munud o ddistawrwydd ei chynnal mewn gemau pêl-droed ar draws y wlad gyda chefnogwyr nifer o'i gyn-glybiau - Leeds United, Everton a Newcastle United yn eu plith - yn gadael blodau, lluniau a sgarffiau er cof amdano.
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddai gêm nesaf Cymru - yn erbyn Costa Rica ar Chwefror 29 - yn gêm goffa i Gary Speed.
Enillodd y cyntaf o'i 85 cap i Gymru yn erbyn Costa Rica yn 1990.
Enillodd fwy o gapiau i Gymru na'r un chwaraewr arall heblaw golwyr, a bu'n gapten 44 o weithiau gan sgorio saith gôl.
Yn gynharach eleni, cafodd cyfaill Speed, Chris Coleman, ei enwi'n olynydd iddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2011