Angladd preifat i Gary Speed ym Mhenarlâg
- Cyhoeddwyd
Mae angladd preifat Gary Speed wedi cael ei gynnal ym Mhenarlâg, Sir Y Fflint, ddydd Gwener.
Roedd Cymdeithas Rheolwyr y Gynghrair wedi dweud mai dim ond teulu a chyfeillion agos oedd yn cael bod yn bresennol.
Cafodd yr angladd ei gynnal yn yr ardal lle y cafodd ei fagu.
Cafwyd hyd i Speed yn farw yn ei gartref yn Sir Caer y mis diwethaf. Roedd yn 42 oed.
Mae'r gymdeithas yn bwriadu trefnu gwasanaeth coffa cyhoeddus yn fuan.
Munud o barch
Agorodd Cyngor Sir Y Fflint lyfr coffa i Speed ddydd Iau, gan ddweud eu bod yn rhannu galar y teulu a'r cyhoedd.
"Roedd yn esiampl wych ac yn ysbrydoliaeth i eraill," meddai prif weithredwr y cyngor, Colin Everett.
"Mae holl gymunedau Sir y Fflint yn falch o lwyddiannau Gary fel pêl-droediwr a rheolwr."
Daeth cefnogwyr pêl-droed a rygbi ynghyd y penwythnos diwethaf i gofio Speed, gyda munud o barch ymhob gêm Uwchgynghrair ac yn y gêm rygbi rhwng Cymru ac Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm.
Dywedodd ei weddw Louise ei bod yn gwerthfawrogi'r teyrngedau a negeseuon o gydymdeimlad.
Gall pobl lofnodi'r llyfr coffa ym mhrif fynedfa Cyngor Sir y Fflint yn Neuadd y Sir yn Yr Wyddgrug.
Mae llyfrau eraill ar gael yn swyddfeydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Nghaerdydd a'r Cae Ras yn Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2011