Addysg: Beio llywodraethwyr?

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Cyngor TorfaenFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Torfaen yn disgwyl i glywed canlyniad eu cais i'r Gweinidog Addysg

Mae 'na rybudd y gall awdurdodau lleol geisio beio llywodraethwyr ysgolion am safonau isel.

Mae dau gyngor wedi gwneud cais i'r Gweinidog Addysg i atal byrddau llywodraethol mewn ysgolion yn eu hardaloedd.

Cytunodd Leighton Andrews i'r cais yn achos Ysgol Gynradd St Albans yng Nghaerdydd ac mae'n ystyried cais arall yn ymwneud ag Ysgol Uwchradd Fairwater yng Nghwmbrân.

Mae llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, yn bryderus y bydd awdurdodau addysg yn dilyn esiampl Cyngor Torfaen drwy wneud cais i atal byrddau llywodraethol yn dilyn pwysau i wella canlyniadau.

"Yr anhawster yw'r ffaith fod nifer o ysgolion angen eu gwella," meddai Mr Roberts.

"A fydd 'na dueddiad felly i awdurdodau lleol i fabwysiadu'r arfer (atal byrddau llywodraethol) mewn nifer o sefyllfaoedd eraill oherwydd y pwysau sydd arnyn nhw i wella cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru?

"Unwaith i chi gael gwared â'r llywodraethwyr, mae'r pwyslais ar yr awdurdod lleol, a beth ydyn ni am wneud yn yr ardaloedd hynny ble mae'r awdurdodau eu hunain wedi cael eu beirniadu gan Estyn?"

'Ddim yn wir'

Mae Cyngor Torfaen wedi dweud wrth y Gweinidog nad ydi'r Llywodraethwyr wedi dangos eu bod nhw'n gymwys i yrru a chynnal gwelliannau.

Mae Leighton Andrews yn ystyried y cais i roi bwrdd llywodraethol dros dro yn ei le.

Ond yn ôl y llywodraethwyr, er waethaf adroddiad beirniadol gan Estyn flwyddyn yn ôl maen nhw wedi cyrraedd targedau gafodd eu cytuno gyda'r arolygwyr.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr Rosemarie Seabourne: "Mae hyn wedi cael effaith andwyol ar y gymuned, cymuned yr ydym ni yn ei gwasanaethu.

"Yr unig reswm yr ydw i yma ydi er budd disgyblion Fairwater a'r gymuned.

"Maen nhw wedi cael adolygiad gwael yn y papur lleol, gan gynnwys papur y cyngor ble gwelwyd sylwadau sydd ddim yn wir.

"Mae llywodraethwyr yn rhoi eu hamser o'u gwirfodd, maen nhw'n bobol ddeallus ac mae clywed nad ydyn nhw'n gymwys i reoli ysgol yn frawychus."

'Cuddio problemau'

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae Estyn yn dweud nad ydi'r ffeithiau cyflawn am berfformiad yr ysgol ym meddiant y llywodraethwyr.

Yn ôl y prif arolygydd, Ann Keane: "Mewn gormod o achosion mae'r penaethiaid yn cyflwyno data perfformiad yr ysgol a mathau eraill o wybodaeth mewn ffordd sy'n cuddio unrhyw broblemau."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd penderfyniad terfynol ynglŷn â bwrdd llywodraethol Fairwater yn cael ei wneud "maes o law."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol