Dicter am benderfyniad cyffur canser

  • Cyhoeddwyd
Dave PowellFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dave Powell ei bod hi'n ddigon drwg dioddef o ganser heb orfod brwydro am driniaeth

Mae dyn sydd wedi gwella o ganser y prostad wedi beirniadu corff iechyd am wrthod cyffur sy'n gallu ymestyn bywydau cleifion o fwy na thri mis.

Mae NICE, sy'n cymeradwyo cyffuriau i gael eu defnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr, yn dweud nad yw buddion abiraterone yn cyfiawnhau'r gost.

Mae elusenau canser hefyd wedi beirniadu'r penderfyniad, sydd yn un dros dro.

Dywedodd Dave Powell o'r Barri, Bro Morgannwg: "Pwy sy'n penderfynnu lle mae tynnu'r llinell?

"Neb sydd wedi dioddef o'r clefyd fentra i."

Canser y prostad yw'r un mwyaf cyffredin ymysg dynion yn y DU.

Cyfaddefodd prif weithredwr NICE (National Institute for Health and Clinical Excellence), Syr Andrew Dillen, bod abiraterone yn effeithiol ac mai un o'r manteision mwyaf oedd y gallai gael ei gymryd fel tabled yng nghartref y claf.

"Rydym yn siomedig felly na fedrwn ei gymeradwyo i gael ei ddefnyddio gan y GIG, ond mae'n gyffur drud."

£3,000 am fis

Mae abiraterone yn costio ychydig yn llai na £3,000 am gyflenwad mis, ond fe gafodd ei gynnig i'r GIG am bris llai.

Ond dywedodd Mr Powell, a gafodd wybod ei fod yn rhydd o ganser y prostad cyn y Nadolig, ei bod yn annheg fod rhaid i bobl frwydro i gael triniaeth sy'n achub bywyd.

"Mae gennych ddwy frwydr - un yn erbyn y clefyd ac un yn erbyn y sustem er mwyn ceisio cael triniaeth ar gyfer y clefyd," meddai wrth BBC Cymru.

Roedd Mr Powell yn derbyn bod arian yn brin yn y GIG, ond yn dweud bod yr awdurdodau yn gosod cleifion mewn lle anodd.

"Maen nhw'n rhy hoff o wneud i bobl sy'n marw deimlo'n euog am eu bod am gael y driniaeth i'r clefyd ofnadwy sydd ganddynt," ychwanegodd.

Mae elusenau canser hefyd wedi beirniadu penderfyniad NICE.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae abiraterone wedi dangos y gall ymestyn bywydau pobl o fwy na thri mis

Dywedodd Owen Sharp o Elusen Canser y Prostad: "Yn syml mae abiraterone yn ymestyn bywydau dynion sy'n dioddef o ganser y prostad nad oes gwella arno.

"Mae'r penderfyniad dros dro yma'n ergyd drom i filoedd o ddynion a'u teuluoedd, ac mae'n rhaid ei wyrdroi."

Dywed NICE eu bod wedi defnyddio dulliau priodol yn ei adolygiad, gan ddod i'r casgliad bod nifer y dynion fyddai angen y cyffur yn rhy farw i ystyried y trefniant.

O dan ganllawiau gan y corff, gall penderfyniadau am y defnydd o abiraterone gael eu gwneud yn lleol o hyd.

Bob blwyddyn mae 37,000 o ddynion yn cael clywed fod ganddynt ganser y prostad, ac mae mwy na 10,000 yn marw o'r clefyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol