Menyw o Bowys i gludo'r ffagl Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Mae gweithiwr elusen o Bowys wedi ei dewis i gludo'r ffagl Olympaidd ar ran o'i thaith drwy Gymru ym mis Mai.
Dywed Nicci Shrimpton, 45 oed, o Gaersws y bydd hi'n cludo'r ffagl rhwng Abertawe ac Aberystwyth ar Fai 27.
Cafodd Mrs Shrimpton, sy'n gweithio i Action For Children, ei henwebu gan ei rheolwr fel cydnabyddiaeth o'i gwaith gyda phlant anabl.
Dywedodd Ms Shrimpton ei bod wedi cael "sioc" o gael ei dewis.
Bydd hi'n un o 8,000 o redwyr fydd yn cludo'r ffagl yn ystod y 70 diwrnod cyn i'r Gemau Olympaidd ddechrau yn Llundain ym mis Gorffennaf.
"Rwyf ar ben fy nigon oherwydd roeddwn i'n meddwl nad oedd llawer o obaith o gael fy newis," meddai Mrs Shrimpton
Dywedodd ei rheolwr, Eve Chinnery fod Mrs Shrimpton yn haeddu bod yn un o'r bobl fydd yn cludo'r ffagl Olympaidd.
"Mae hi'n aelod gweithgar o'r tîm."