Radio: Dau gais am drwydded
- Cyhoeddwyd

Mae Ofcom yn dweud y byddan nhw'n croesawu barn y cyhoedd am anghenion lleol gwrandawyr
Mae rheoleiddiwr y diwydiant darlledu, Ofcom, wedi derbyn dau gais ar gyfer y drwydded i reoli'r gwasanaeth radio masnachol yng Ngheredigion.
Y ddau yw Town and Country, sydd a'r drwydded ar hyn o bryd, a chwmni cydweithredol Radio Ceredigion 2012.
Os yw Town and Country yn ennill y cytundeb bydd gwasanaeth newyddion lleol, cerddoriaeth a gwybodaeth ar gyfer Ceredigion arv gyfer y rhai sy'n 15 oed ac yn fwy - a rhaglenni Cymraeg rheolaidd.
Byddai hanner gwasanaeth Radio Ceredigion 2012 yn Gymraeg a'r nod fydd rhaglenni "yn adlewyrchu natur ddau-ddiwylliannol yr ardal," targedu pobl o bob oed a darparu gwasanaeth newyddion lleol drwy gydol y dydd.
Mae Ofcom yn dweud y byddan nhw'n croesawu barn y cyhoedd am anghenion lleol gwrandawyr yr ardal.