'Diolch am driniaeth' tra gallai 80,000 fynd yn ddall

Anita Butler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anita Butler yn canmol ei thriniaeth wrth i adroddiad nodi y gallai nifer golli eu golwg yn sgil diffyg triniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd bod 80,000 o bobl mewn peryg o golli eu golwg yn barhaol oherwydd rhestrau aros hir, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Iechyd y Senedd.

Mae'r corff sy'n cynrychioli offthalmolegwyr yng Nghymru'n rhybuddio y gallai'r union nifer sydd mewn peryg o fynd yn ddall fod yn llawer uwch.

Offthalmoleg ydi'r arbenigedd prysuraf ac mae un o bob wyth claf ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r pwyllgor yn rhybuddio bod angen gweithredu ar frys a chael cynllun buddsoddi er mwyn atal pobl rhag colli eu golwg yn ddiangen.

'Hen ac anniogel'

Dim ond 1.97 o offthalmolegwyr ymgynghorol sydd i bob 100,000 o'r boblogaeth, sy'n llawer is na'r tri a argymhellir.

Mae'r pwyllgor yn dweud bod llawer o gyfleusterau gofal llygaid yn hen ac yn anniogel a bod offer sydd wedi torri yn achosi oedi mewn triniaeth hefyd.

Yn ystod eu hymchwiliad, fe ddaeth i'r amlwg fod system electronig o gofnodi ac atgyfeirio cleifion yn bodoli ond nid pob bwrdd iechyd sydd wedi'i chyflwyno.

Mae 'na angen am fuddsoddiad cynaliadwy mewn staffio ac adeiladau ar gyfer gofal llygaid arbenigol, yn ôl yr adroddiad.

Mabon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i ni weld arweiniad gan y llywodraeth a pharodrwydd gan y byrddau iechyd i gydweithio, medd Mabon ap Gwynfor, aelod o'r pwyllgor

"Mae 'na strategaeth offthalmoleg gan Lywodraeth Cymru," meddai Mabon ap Gwynfor AS, sy'n aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

"Ond hyd yma 'dan ni ddim wedi cael ein hargyhoeddi bod o'n weithredol."

Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar unwaith i weithredu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol gafodd ei chyhoeddi yn 2024.

"Mae'n rhaid i ni weld arweiniad gan y llywodraeth a pharodrwydd gan y byrddau iechyd i gydweithio fel bod pawb yn cael y driniaeth angenrheidiol i'w llygaid," meddai.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan gleifion am effaith oedi ar eu bywydau gan gynnwys un a gollodd ei swydd gan na allai roi amserlen clir i'w chyflogwyr.

Michael ac anita butler
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael, gŵr Anita Butler, yn dal i ddisgwyl i gael triniaeth ar ei lygaid

"Dwi'n hapus iawn efo'r driniaeth ges i, doeddwn i ddim yn gallu darllen o'r blaen heb sbectol," meddai Anita Butler, 79, o Lanfairfechan.

Fe gafodd hi driniaeth ar un lygad mewn clinig preifat dros y ffin yn Sir Caer, ond Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dalodd am y driniaeth.

"Rwan dwi'n gallu cerdded o gwmpas y tŷ, dwi'n gallu cerdded i'r pentre heb y sbectol a dwi ddim mor ddibynnol ar y sbectol ag yr oeddwn i," meddai.

"Roedd y driniaeth ges i, a'r bump ddynas arall oedd ar y minibus o 'sbyty Gwynedd yn wych," meddai Anita.

Mae gŵr Anita, Michael, angen tynnu dau gataract hefyd, ond disgwyl y mae o am apwyntiad gydag arbenigwr.

'Triniaeth breifat ddim yn ateb'

Clywodd y pwyllgor fod rhai byrddau iechyd wedi cwtogi rhestrau aros drwy anfon cleifion i Loegr i gael llawdriniaethau cataract gan y sector annibynnol.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio nad ydy hynny'n mynd at wraidd y broblem o ran recriwtio a chynnig gofal yn agos at gartrefi cleifion.

Mae disgwyl i'r galw am wasanaethau offthalmoleg ar gyfer cataractau a macwlar gynyddu 40% dros yr 20 mlynedd nesaf.

Dydi Cymru ddim yn llwyddo i ateb y gofyn am y gwasanaethau oherwydd "pobl, lleoedd ac arian" yn ôl Rhianon Reynolds sy'n Offthalmolegydd Ymgynghorol ac yn Llywydd ar Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn Nghymru.

"30 mlynedd yn ôl, roedd y maes yn un gymharol fach," meddai.

"Roedd yr opsiynau am driniaethau'n gyfyngedig iawn ond ers hynny mae 'na dwf sylweddol wedi bod yn y ffordd i drin afiechydon o'r llygaid, ac mae llawer llai o bobl yn colli'u golwg.

"Ond mae hynny'n golygu bod y ffyrdd o weithio a'r cyfleusterau sydd ganddyn nhw dal yn cael eu cyfyngu gan yr hyn oedd yn digwydd 30 mlynedd yn ôl."

Mae Dr Reynolds yn dweud bod y twf yn nifer y cleifion y mae modd eu helpu ddim wedi ei adlewyrchu yn nhwf y gweithlu na'r diffygion mewn cyfleusterau ar draws y wlad.

Clywodd ymchwiliad y panel bod rhai unedau yn cael problemau cyson gyda thoiledau yn gollwng dŵr uwchben ardaloedd clinigol ac roedd eiddew yn tyfu trwy waliau uned arall.

"Dwi ddim yn meddwl bod yna'r un uned llygaid yng Nghymru sydd yn addas," meddai Dr Reynolds.

Mae hi'n meddwl bod y gwahanol heriau ar fyrddau iechyd wedi arwain at oedi "rhwystredig" o ran cydweithio rhanbarthol.

Ac mae hi'n dweud bod y ffigwr o 80,000 y cyfeirir ato yn adroddiad y pwyllgor yn bell o'r gwir, gan nad ydy'r data yn cynnwys cleifion sydd yn y system yn barod.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn ystyried eu hargymhellion. Byddwn yn ymateb maes o law."

Pynciau cysylltiedig