Eisteddfod: Cyfle am docyn rhad

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Croeso i'r Eisteddfod 2011Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Bydd tocynnau'n mynd ar werth ar Fawrth 1

Gyda chwe mis i fynd cyn y bydd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn agor ei giatiau, mae'r Brifwyl wedi cyhoeddi manylion cynllun arbennig sy'n cynnig bargen i unrhyw un sy'n prynu tocynnau Maes am ddeuddydd.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd yr Eisteddfod yn rhedeg cynllun tridiau ar y Maes am bris deuddydd, felly wrth brynu tocynnau am ddeuddydd o'ch dewis, gallwch ddod i'r Maes am ddiwrnod ychwanegol - yn rhad ac am ddim.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts:

"Mae hwn yn gynllun syml ond effeithiol, a'n gobaith yw y bydd nifer fawr o ymwelwyr yn elwa ohono fo eleni ym Mro Morgannwg.

Arian yn brin

"Rydym eisoes wedi cyhoeddi manylion ein Tocyn Wythnos, ac mae'r cynllun newydd yma'n berffaith ar gyfer unrhyw un sydd yn awyddus i ddod atom am ran o'r wythnos.

"Prynwch docynnau ar gyfer deuddydd i'r Maes ac fe gewch fynediad am ddim i'r Maes ar ddiwrnod arall o'ch dewis.

"Felly, os ydych chi'n prynu dau docyn oedolyn a dau docyn plentyn dan 12 i'r Maes ar gyfer unrhyw ddau ddiwrnod, gallwch archebu hyd at ddau docyn oedolyn a dau docyn plentyn dan 12 ar gyfer unrhyw ddiwrnod arall yn rhad ac am ddim, sy'n arbediad o £44.

"Rydym yn ymwybodol iawn ein bod mewn cyfnod o gyni economaidd a bod arian hamdden Eisteddfodwyr, fel pawb arall, yn brin ar hyn o bryd, ond drwy siarad gydag ymwelwyr o bob oed, rydym hefyd yn gwybod bod pobl yn awyddus i ddod i'r Eisteddfod ac i dreulio nifer o ddyddiau ar y Maes.

Mawrth 1

"Gobeithio y bydd y cynnig hwn yn fodd iddyn nhw wneud hyn, a dod atom i fwynhau'r Eisteddfod ym Mro Morgannwg.

"Bydd modd archebu tocynnau ar-lein ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol a thrwy'r llinell docynnau - 0845 4090 800. Bydd y cynllun yn dod i ben ar 1 Gorffennaf."

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst.

Bydd manylion y cyngherddau nos yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf gyda thocynnau ar werth o Mawrth 1 ymlaen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol