Plaid: Simon Thomas yn tynnu'n ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae Simon Thomas AC wedi tynnu'n ôl o'r ras i fod yn arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru ei fod yn cefnogi Elin Jones ac yn gobeithio bod yn ddirprwy iddi petai'n cael ei hethol.

Y tri yn y ras felly yw Elin Jones, Leanne Wood a'r Arglwydd Elis-Thomas ac fe fydd yr enillydd yn cael ei ddewis drwy'r system bleidlais amgen.

Bydd olynydd Ieuan Wyn Jones, sy'n rhoi'r gorau i'r arweinyddiaeth ar ôl 10 mlynedd, yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15.

Mr Thomas gafodd y nifer lleiaf o enwebiadau oddi wrth ganghennau ac etholaethau, dau enwebiad o'i gymharu â Leanne Wood oedd â 14. Roedd gan Elin Jones bump a'r Arglwydd Elis-Thomas bedwar.

'Credadwy a realistig'

Roedd cyn Aelod Seneddol Ceredigion, Mr Thomas, wedi bod yn ymgynghorydd arbennig i weinidogion Plaid Cymru yn y glymblaid gyda Llafur yn ystod y Cynulliad diwethaf.

Dywedodd: "Un peth sy'n sicr - fydd Plaid Cymru ddim yn llywodraethu nac yn cael llwyddiant etholiadol drwy chwarae gwleidyddiaeth Fisher Price gyda gobeithion a breuddwydion pobl."

Ychwanegodd bod yn rhaid i ymgeiswyr gael "polisïau credadwy a realistig".

Roedd yn siarad â gohebwyr y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Llun yng nghwmni Ms Jones.

Pan ofynnwyd ai bwriad eu hymgyrch oedd atal Ms Wood, dywedodd: "Na, ymgyrch yw hi i gael Elin wedi'i hethol."

'Plaid gyfoes'

Pwysleisiodd nad oedd nifer o'r canghennau mwyaf wedi enwebu unrhyw ymgeisydd.

Dywedodd y dylai'r blaid gael ei harwain o'u "ganolbwynt sydd, yn ei hanfod, i'r chwith o'i chanolbwynt yn nhraddodiad gwleidyddol Ewrop."

Yn ôl Ms Jones: "Rydym eisiau troi Plaid Cymru'n blaid gyfoes i'r 21ain ganrif, gan gynnig yr unig her gredadwy i Lafur yng Nghymru.

"Rydym eisiau gweld Plaid Cymru'n llywodraethu Cymru eto a sicrhau bod y wlad yn cael ei thrawsnewid yn un lwyddiannus, gynaliadwy ac annibynnol.

"Mae ein huchelgais gwleidyddol yn eofn a radical ond hefyd yn berthnasol i fywydau a gobeithion pawb bob dydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol