Ambiwlans: Galw am well darpariaeth

  • Cyhoeddwyd
Jacqueline DaviesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Arhosodd Jacqueline Davies 41 munud am ambiwlans

Mae mab dynes a fu farw naw niwrnod ar ôl aros 41 munud am barafeddyg yn cyflwyno deiseb yn annog gwasanaeth ambiwlans penodol i'w dref.

Dywedodd crwner y gallai "methiannau sylweddol" gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru fod wedi cyfrannu at farwolaeth Jacqueline Davies.

Mae Mathew Davies o Drefynwy, eisiau i Aelodau'r Cynulliad bwyso am well darpariaeth ambiwlans mewn ardaloedd gwledig.

Wedi'r cwest dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi gwneud gwelliannau.

Bu farw mam Mr Davies ym mis Ionawr 2011 yn 49 oed, a hynny naw niwrnod ar ôl disgyn yn ei chartref.

Clywodd cwest i'w marwolaeth ym mis Rhagfyr 2011 bod sawl ffactor wedi arwain at oedi cyn i Ms Davies gael triniaeth.

Clywodd y cwest nad oedd staff ar gael i weithio adeg y digwyddiad ar Ionawr 11, 2011, a phan gyrhaeddodd parafeddyg, roedd y Cerbyd Ymateb Cyflym (CYC) wedi torri lawr am fod y batri wedi mynd yn isel.

'Annerbyniol'

Dywedodd y crwner bod tystiolaeth i awgrymu niwmonia ond nad oedd modd peidio ystyried syndrom marwolaeth sydyn mewn oedolion.

Wrth i ddirprwy crwner Pen-y-bont ar Ogwr a Chymoedd Morgannwg, Wayne Griffiths, gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd y gallai'r oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai ac oedi cyn i'r ymddiriedolaeth ambiwlans ymateb i alwadau fod wedi cyfrannu at farwolaeth Ms Davies.

Ychwanegodd ei bod hi'n "annerbyniol" nad oedd CYC yn gweithio.

Dydd Mawrth fe fydd Mr Davies yn cyflwyno'r ddeiseb i aelodau pwyllgor iechyd a gwasanaethau cymdeithas yn Y Senedd.

"Dwi'n gobeithio y bydd 'na gytundeb am y rheswm dros y ddeiseb - i gael gwasanaeth ambiwlans penodedig i Drefynwy," meddai.

"Gyda'r boblogaeth yn tyfu a chau uned man anafiadau yn Nhrefynwy fe fydd 'na fwy o alw am y gwasanaeth ambiwlans yn y dref.

"Rydym yn annog y gweinidog i ddefnyddio'r grym i orfodi'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans i gynnig darpariaeth o safon drwy Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Trefynwy."

Fe ofynnwyd am ymateb yr ymddiriedolaeth i'r ddeiseb.

'Cyflwr gweithredol'

Wedi'r cwest ym mis Rhagfyr dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu bod yn derbyn gosodiadau'r crwner gan gydymdeimlo â theulu Ms Davies.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau diogel o safon uchel yn Sir Fynwy ac rydyn ni wedi gwneud nifer o welliannau i'n gwasanaethau ers mis Ionawr 2011," meddai.

"Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno trefniadau ar y cyd gyda Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr i sicrhau ein bod yn ymateb mewn amser i bob achos brys lle mae bywyd yn y fantol ac rydyn ni wedi arolygu ein harfer gwaith i sicrhau bod gennym ni gyflenwad llawn yn ystod cyfnodau prysur."

"Rydyn ni hefyd wedi sicrhau bod ein staff yn diogelu bod bob cerbyd ambiwlans mewn cyflwr gweithredol i ymateb i unrhyw alwad."

Dywedodd yr ymddiriedolaeth eu bod yn cydweithio â byrddau iechyd lleol i leihau a dileu unrhyw oedi ynghylch trosglwyddo cleifion".

"Mae gwelliannau eraill yn cynnwys datblygu gwasanaeth clinigol dros y ffôn i osgoi cludo cleifion i'r ysbyty heb eisiau, a datblygu nifer o gynlluniau gofal amgen i gynorthwyo cleifion sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi neu yn eu cymunedau," ychwanegodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol