Plaid: Clymblaid â'r Torïaid?
- Cyhoeddwyd
Mae tri ymgeisydd rweinyddiaeth Plaid Cymru wedi amlinellu eu safbwynt am ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr.
Dywedodd Leanne Wood na fyddai'n cydweithio gyda'r Torïaid ac y byddai hynny'n denu pleidleisiau cefnogwyr Llafur.
Mae'r Arglwydd Elis-Thomas wedi dweud bod peidio diystyru cytundeb gyda'r Ceidwadwyr wedi costio pleidleisiau i Blaid Cymru yn etholiad y llynedd.
Nododd Elin Jones mai penderfyniad i aelodau Plaid fyddai cytundebau clymblaid nid i'r arweinydd.
Tair plaid
Mae'r tri Aelod Cynulliad yn gobeithio olynu Ieuan Wyn Jones fydd yn ildio'r awenau wedi 10 mlynedd.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 15.
Mr Jones arweiniodd Plaid Cymru i glymblaid gyda Llafur yn 2007 ond roedd hefyd yn trafod cytundeb tair plaid gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe gafodd cynnig i wrthod clymbleidio gyda'r Ceidwadwyr ei drafod yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru'r llynedd ond ni phasiwyd y cynnig ac fe gafodd ei gyfeirio i fwrdd gweithredol y blaid.
'Torri tir'
Dywedodd Ms Wood, AC Canol De Cymru: "Byddai gwrthod clymblaid gyda'r Ceidwadwyr yn ein helpu i berswadio pleidleiswyr Llafur ar hyn o bryd ein bod o ddifri am eu pryderon.
"Os nad ydyn ni'n torri tir newydd mewn ardaloedd lle mae Llafur yn gwneud yn dda, ni fydd modd i ni fod y blaid fwyaf yng Nghymru."
Dywedodd AC Dwyfor Meirionnydd, yr Arglwydd Elis-Thomas, y byddai'n fodlon trafod gyda'r Ceidwadwyr dim ond pe bai Llafur yn colli ei statws fel y blaid fwyaf.
"Dwi ddim yn deall amharodrwydd y blaid yn etholiad y cynulliad y llynedd i'w gwneud hi'n glir na fydden nhw yn fodlon gweithio gyda'r Ceidwadwyr o dan unrhyw amgylchiadau."
'Un-blaid'
Roedd Plaid Cymru tu ôl i'r Ceidwadwyr yn y Senedd yn yr etholiad ym mis Mai 2011.
Yn ôl Ms Jones, AC Ceredigion, mae'n bryd "diweddu'r wladwriaeth un-blaid Llafur ..."
"Nid arweinydd y blaid sy'n penderfynu trefniadau clymbleidio - aelodau Plaid Cymru eu hunain fydd yn penderfynu natur ein perthynas gydag eraill.
"I'r perwyl hwnnw, mae'n amhosib credu y byddai aelodau'r blaid am gael unrhyw gysylltiad gyda grŵp Andrew RT Davies."
Fe fydd y tri ymgeisydd yn cael eu holi yn fyw ar raglen CF99 BBC Cymru ar S4C nos Fercher am 9.30pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2012