Plaid: 'Ystyried newid enw Saesneg'
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi casgliadau adolygiad gafodd ei gynnal wedi perfformiad gwael yn Etholiad y Cynulliad y llynedd.
Yn ôl yr adroddiad mae 'na awgrym y dylai'r blaid drafod enw Saesneg newydd - the Welsh National Party yn lle Plaid Cymru, The Party of Wales.
Bu tîm o chwech o dan arweiniad y Dr Eurfyl ap Gwilym yn edrych ar bob agwedd o'r blaid, gan gynnwys strwythur, aelodaeth, gweledigaeth, dulliau ymgyrchu a chyfathrebu.
Mae'r adolygiad wedi casglu bod angen mynd i'r afael â'r ffaith bod rhai'n ystyried y blaid yn "un ar gyfer siaradwyr Cymraeg".
Dywedodd yr adolygiad y dylai'r blaid fod yn fwy eglur am nod annibyniaeth.
'Diffyg eglurder'
"Mae yna ddiffyg eglurder" o ran polisi cyfansoddiadol y blaid, meddai'r adolygiad sydd wedi dweud bod angen i'r blaid osod agenda ar gyfer nod annibyniaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.
Penderfynwyd cynnal yr adolygiad wedi i'r blaid orffen yn drydedd tu ôl i'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol.
Roedd y tîm yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth am bum mis.
Dywedodd y Dr ap Gwilym ei fod yn gobeithio y byddai'r adolygiad - Camu 'Mlaen: Adfywio'r Blaid i Gymru - yn "gatalydd ar gyfer trafodaeth lawn o fewn Plaid Cymru."
Mae'r adroddiad 80 tudalen yn cynnwys 95 o argymhellion fydd yn cael eu hystyreid o fewn misoedd.
Chwyldroi
Mae'r prif argymhellion yn cynnwys:
Sefydlu Academi Genedlaethol i chwyldroi ymgyrchu a threfniadaeth a meithrin hyrwyddwyr cymunedol ac arweinwyr cenedlaethol;
Moderneiddio dulliau ymgyrchu yn bellgyrhaeddol i greu plaid sy'n ymgyrchu'n barhaol;
Sefydlu mecanwaith mwy effeithiol ar gyfer llunio polisïau;
Sicrhau bod sgiliau aelodau, cefnogwyr ac arbenigwyr allanol yn cael eu defnyddio er mwyn datblygu polisi gwell;
Derbyn bod y Blaid angen mwy o eglurder o ran ei hamcanion er mwyn gallu cyflwyno neges gydlynol ac unedig i bobl Cymru.
Dywedodd Jocelyn Davies AC, un o'r chwe aelod oedd yn goruchwylio'r broses adnewyddu: "Tra bod Plaid Cymru wedi gosod yr agenda wleidyddol yng Nghymru dros sawl degawd nid yw wedi manteisio ar y cynnydd mewn hunaniaeth Gymreig a'r gefnogaeth gynyddol o blaid pobl Cymru yn cael mwy o reolaeth dros eu materion eu hunain.
"Rydym yn argymell bod y Blaid angen trafod ac egluro eu hamcanion cyfansoddiadol a chytuno ar lwybrau posibl i'w llwyddiannau.
"Dim ond trwy wneud hyn y bydd y Blaid yn gallu cyflwyno neges gydlynol ac unedig i bobl Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011