Gwleidyddion yn ymchwilio i unedau mamolaeth

  • Cyhoeddwyd
Babi o dan ofal arbennigFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arbenigwyr yn dod at ei gilydd i drafod gofal newyddenedigol

Mae ymchwiliad i wasanaethau newydd-anedig mewn ysbytai yn cael ei gynnal gan bwyllgor o Aelodau'r Cynulliad.

Daw hyn wedi adroddiad beirniadol yn 2010 oedd yn nodi bod unedau mewn ysbytai yng Nghymru yn brin o staff, yn brin o gyfarpar ac yn orlawn.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cymryd camau i wella'r sefyllfa, gan gynnwys cynnal arolwg o'r staff.

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn asesu'r gwelliannau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2010 ddydd Iau.

Yng Nghymru mae tua 4,000 o fabanod yn cael eu trin mewn unedau newydd-anedig bob blwyddyn.

Dywedodd adroddiad Bliss yn 2010 bod yna bryder gwirioneddol am unedau dwys i fabanod yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ac Ysbyty Wrecsam Maelor.

Yn ôl yr adroddiad doedd yn unedau "ddim yn agos" i gyd-fynd a'r lefelau staffio sy'n cael eu crybwyll ar gyfer y math yma o ofal.

Arolwg

Roedd hefyd am i'r llywodraeth edrych ar y 'broblem ddifrifol' o brinder staff.

Dywedodd yr adroddiad fod oblygiadau diogelwch yr oedd yn rhaid i'r bwrdd iechyd eu hwynebu yn syth.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod arolwg yn cael ei gynnal o wasanaethau mamolaeth ledled gogledd Cymru.

"Mae'r arolwg yn ystyried sut mae sicrhau'r lefel o ofal arbenigol sydd ei angen a hynny ar lefel gynaliadwy."

Mae disgwyl i gynnwys yr arolwg gael ei ddatgelu yn yr haf.

'Mater pwysig'

"Yn ddibynnol ar yr ymatebion y byddwn yn eu cael yn ystod yr ymchwiliad undydd, mae'n bosibl y bydd y Pwyllgor yn fodlon â'r cynnydd a wnaed, neu am gael rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol," meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

"Neu fe fyddwn yn penderfynu cynnal ymchwiliad hirach, mwy manwl, i'r mater pwysig ac emosiynol hwn."

Mae'r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan yr elusen Bliss, Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cymdeithas y Nyrsys newydd-anedig, Cymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain, y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yng Nghymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol