Colli'r darlledwr a'r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel
- Cyhoeddwyd

Roedd Emyr Daniel yn un o uwch swyddogion HTV Cymru yn yr 1980au
Bu farw'r darlledwr a'r cynhyrchydd teledu Emyr Daniel.
Roedd yn 63 oed.
Bu'n newyddiadurwr gyda BBC Cymru gan weithio ar raglen Heddiw a Radio Cymru rhwng 1974 a 1981.
Bu hefyd yn un o uwch swyddogion HTV yn yr 1980au gan gynhyrchu nifer o raglenni ar gyfer S4C.
Roedd yn gyn-gadeirydd Bafta Cymru.
Cafodd ei eni ym Maenclochog ac fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin a Choleg Yr Iesu, Rhydychen.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales:
"Roedd doniau darlledu Emyr yn doreithiog.
"Daeth â thrylwyredd, hiwmor a chynhesrwydd i bawb a weithiai gyda nhw - o'i ddyddiau cynnar fel gohebydd a chyflwynydd yn BBC Cymru i'w yrfa amlwg yn HTV."
Dywedodd Phil Henfrey, pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru: "Roedd Emyr Daniel yn un o ffigyrau amlycaf darlledu Cymru dros gyfnod o bedwar degawd.
"Roedd yn ffigwr amlwg yn llwyddiant HTV Cymru, a chafodd ei benodi yn rheolwr gyfarwyddwr y cwmni.
"Gwleidyddiaeth a materion cyfoes oedd ei ddiddordeb mawr ac roedd yn gyflwynydd ac yn gynhyrchydd blaengar."