Iechyd: Rali i wrthwynebu newidiadau

  • Cyhoeddwyd
Rali yn LlanelliFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r protestwyr yn poeni am ddyfodol Ysbyty Tywysog Philip

Bydd ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu newidiadau i wasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli yn cynnal rali yn y dref ddydd Sadwrn.

Mae trefnwyr yr orymdaith, Cyngor Masnach Llanelli, yn poeni y gallai lleihau gwasanaethau arwain at gau'r ysbyty.

Nos Wener daeth dros 500 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth oherwydd pryder ynglŷn â dyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais, dolen allanol.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n arolygu gwasanaethau'r ysbytai sydd o dan eu rheolaeth yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch newidiadau i wasanaethau'r ysbyty.

Dywed y trefnwyr y rali yn Llanelli nad ydynt yn "fodlon gweld bywydau yn cael eu peryglu" gan gynigion i gau adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty.

Canolfan gofal brys

Mae'r bwrdd iechyd yn adolygu eu gwasanaethau gan gynnwys adrannau ddamweiniau Ysbyty'r Tywysog Philip, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae'r bwrdd yn cynnig tri opsiwn ond maen nhw wedi dweud y gallai syniadau newydd gael eu hychwanegu i'r cynllun.

Byddai uned gofal ddwys Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, yn cael ei hisraddio i ganolfan gofal brys ym mhob un o'r tri opsiwn ac fe fyddai gwasanaethau llawn yn cael eu darparu yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd: "Mae'n bwysig cydnabod nad ydym yn ymgynghori ar hyn o bryd.

"Mae'r ymarferiad gwrando a chysylltu yn bwriadu cynyddu'r ddealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

"Gall y staff, grwpiau deiliaid diddordeb a'r cyhoedd lleisio eu barn i ffurfio'r opsiynau fydd yn cael eu cynnig ar gyfer yr ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni.

'Lleoliad iechyd priodol'

"Mae'n rhaid i'n gwasanaethau gydymffurfio â safonau diogelwch ac ansawdd ac na fydden ni'n ystyried opsiynau fyddai'n peryglu bywydau.

"Does dim un penderfyniad wedi'i wneud eto ond rydyn ni'n argyhoeddedig nad yw cadw gwasanaethau fel ag y maen nhw yn opsiwn."

Ychwanegodd y bwrdd y byddai cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod mis Chwefror fydd yn croesawu barn y cyhoedd.

Mae AC Llanelli, Keith Davies, wedi honni bod y gwasanaeth ambiwlans eisoes yn cludo cleifion i Gaerfyrddin neu Abertawe yn hytrach nac Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.

Dywedodd y Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eu bod yn ceisio sicrhau bod cleifion yn cael eu hanfon i'r "lleoliad iechyd priodol".

Yr wythnos diwethaf daeth i'r amlwg fod 50 o feddygon ymgynghorol ac arbenigwyr Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, wedi arwyddol llythyr yn dweud eu bod wedi colli hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mewn llythyr at brif weithredwr y bwrdd, Trevor Purt, dywedon nhw nad oedden nhw'n credu bod y bwrdd iechyd wedi "ymrwymo'n llwyr" i gefnogi'r ysbyty wrth ddarparu gwasanaethau'n lleol.

Ddydd Gwener, penderfynodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths ymyrryd gan ddweud ei bod hi'n disgwyl i swyddogion "wrando a chysylltu" â'r gymuned a chlinigwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol