Ail gêm ym Mharc yr Arfau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd rhanbarth rygbi Gleision Caerdydd yn chwarae am yr ail dro'r tymor hwn ym Mharc yr Arfau.
Stadiwm Dinas Caerdydd yw cartref swyddogol y Gleision ers 2009.
Ond wedi pryderon am gyn lleied yn gwylio fe chwaraeodd y rhanbarth eu gêm yn erbyn Connacht yn eu hen gartref nos Wener.
Roedd 8,000 yn gwylio'r Gleision yn curo'r tîm o Iwerddon ac fe fydd Ulster yn chwarae yno ddydd Gwener.
Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland, y byddai'r bwrdd yn trafod trefniadau gweddill y tymor ddydd Gwener.
Mae'r Gleision wedi arwyddo cytundeb 20 mlynedd i chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, cartref tîm pêl-droed y brifddinas hefyd.
9,000
"Roedd y cefnogwyr yn amlwg yn falch o fynd yn ôl i Barc yr Arfau," meddai Mr Holland.
"Wedi trafod gyda Chyngor Caerdydd, rydym wedi codi uchafswm y gwylwyr i 9,000.
"Fel y dywedais ddydd Gwener ddiwethaf, does 'na ddim bwriad i ddychwelyd yn barhaol.
"Mae gennym ni gytundeb 20 mlynedd gyda Stadiwm Dinas Caerdydd a dyw chwarae'r ddwy gêm hyn ddim yn effeithio ar y cytundeb."
Ychwanegodd bod rhai gemau yn fwy addas ar gyfer stadiwm llai.
Hyd at 11,000
"Fe fyddwn ni'n edrych ar sefyllfa tymor 2012-13," meddai.
Ar y dechrau roedd y rhanbarth yn denu torfeydd o hyd at 11,000 i'r stadiwm newydd sy'n dal tua 25,000.
Ond roedd 2,093 yn gwylio gêm Cwpan LV yn erbyn Harlequins ar Chwefror 5.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012