Gêm gyfeillgar i Gymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina
- Cyhoeddwyd
Fe fydd pêl-droedwyr Cymru yn wynebu Bosnia-Herzegovina mewn gêm gyfeillgar ar Awst 15 ar drothwy gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.
Does 'na ddim manylion eto am leoliad nac amser, ond mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau y bydd y gêm yn ne Cymru.
Ychwanegodd llefarydd y bydd y lleoliad yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd manylion Cwpan Carling ar gyfer y tymor newydd yn cael eu cyhoeddi.
Mae Cymru wedi wynebu Bosnia-Herzegovina unwaith o'r blaen, yn Stadiwm y Mileniwm yn 2003 pan gafwyd gêm gyfartal o 2-2.
Dyma fydd gêm olaf Cymru cyn i gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ddechrau ym mis Medi.
Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg ar Fedi 7 cyn teithio i Serbia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Ym mis Hydref fyddan nhw'n wynebu'r Alban cyn teithio i Croatia.
Mae'r Gymdeithas eisoes wedi cyhoeddi y bydd tîm Chris Coleman yn wynebu Mexico mewn gêm gyfeillgar yn Efrog Newydd ar Fai 27.
Credir bod Ffrainc wedi cysylltu gyda'r Gymdeithas i drefnu gêm gyfeillgar ar Fehefin 5.
Fe fydd Cymru yn wynebu Costa Rica yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Chwefror 29, Gêm Gioffa Gary Speed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2012