Prosiect: Llai'n ceisio lladd eu hunain
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd yn dweud sut y mae prosiect yn cyfrannu at lai o achosion hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.
Wedi ei ariannu drwy raglen 'Iechyd Meddwl' £15 miliwn y Gronfa Loteri Fawr, mae Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru yn brosiect pum mlynedd.
Ers 2009 mae'r prosiect wedi cynnal Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cynhwysol fel bod staff yn gallu ymyrryd yn gynnar ac atal meddwl am hunanladdiad rhag mynd yn ymddygiad hunanddinistriol.
Wedi ei lansio yn ystod gweithdy iechyd meddwl arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Llun, mae'r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu effaith ac effeithiolrwydd hyfforddiant ASIST wrth helpu pobl i ddod yn fwy parod, bodlon a medrus o ran cynorthwyo rhywun sy'n meddwl am ladd ei hun.
Hyfforddiant
Amcangyfrifir bod 3.4% o'r boblogaeth yn cael syniadau o hunanladdiad mewn unrhyw flwyddyn.
I lawer yng Nghymru sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol, mae'r rhaglen ASIST yn darparu'r unig hyfforddiant atal hunanladdiad sy'n bodoli.
Mae'r adroddiad newydd yn dangos bod yr hyfforddiant yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd pobl yn dod o hyd i'r cymorth y mae ei angen arnyn nhw.
Rhwng mis Chwefror 2009 a Gorffennaf 2011, cynhaliwyd dros 100 o gyrsiau ASIST, gan hyfforddi cyfanswm o dros 2,200 o bobl.
Gan amlygu'r angen am y prosiect, nododd bron i 70% o'r rhai a fynychodd y gweithdai nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw hyfforddiant atal hunanladdiad.
Wedi cwblhau'r cwrs ASIST:
• Teimlodd 97% o'r bobl yn fwy parod i helpu person sydd mewn peryg o hunanladdiad.
• Roedd 73% o'r bobl eisoes wedi defnyddio'r hyfforddiant i helpu rhywun.
• Roedd 8% wedi defnyddio'r ymyrraeth mwy nag 20 o weithiau wedi'r hyfforddiant.
• Dywedodd 96% ei fod yn fwy tebygol y byddent yn gofyn i rywun yn uniongyrchol os oedden nhw'n meddwl am hunanladdiad.
• Adroddodd cyfranogwyr fod yr ofn a'r tabŵ sy'n gysylltiedig gyda'r gair 'hunanladdiad' bellach wedi diflannu.
Dywedodd Siân Howells, Uwch Gwnsler yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot: "Mae'r hyfforddiant ASIST wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy arfer fel Cwnsler ac o safbwynt darparu'r gwasanaeth cwnsela.
"Cryfder y model yw y gall gael ei ymgorffori i fframwaith therapiwtig.
"Rwy'n canfod fy mod yn medru diosg fy het cwnsela a chymhwyso Cymorth Cyntaf Hunanladdiad yn yr un modd ag y mae cymorth cyntaf yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd argyfyngus eraill.
'Mwy hyderus'
"O ganlyniad i wneud yr hyfforddiant, rwy'n teimlo yn llawer mwy hyderus wrth weithio gyda phobl ifanc sy'n cael syniadau am hunanladdiad ac rwy'n teimlo yn fwy tawel fy meddwl fy mod yn gweithio gyda model sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd yn glir ac yn strwythuredig."
Dywedodd Alan Briscoe, Rheolwr Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru: "Mae nifer o bobl yn pryderu am godi'r mater o hunanladdiad gydag unrhyw un y maent yn credu sydd mewn peryg o gymryd y cam hwnnw.
"Mae adroddiad heddiw yn profi bod hyfforddiant ASIST yn rhoi hyder a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar y bobl hynny sy'n wynebu'r sefyllfaoedd yma.
"Rydym yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i hyfforddi fel y gallwn gyflwyno'r sgiliau yma i'n cymunedau a'n gweithleoedd."