Toriadau 'enfawr mewn cyflogau rygbi?

  • Cyhoeddwyd
Gwyn JonesFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyn Jones yn meddwl y bydd rhaid ailstrwythuro rygbi rhanbarthol yng Nghymru

Mae cyn gapten tîm rygbi Cymru, Gwyn Jones, wedi rhybuddio bydd yn rhaid i chwaraewyr sy'n cynrychioli rhanbarthau Cymru wynebu toriadau "enfawr" mewn cyflogau yn y dyfodol.

Daw ei sylwadau yn dilyn datganiad cefnogwr ariannol y Gleision, Peter Thomas, na fydd chwaraewyr cenedlaethol yn cael eu talu pan fyddant yn chwarae i Gymru.

Dywedodd Jones, 39, a chwaraeodd dros Gymru 13 o weithiau: "Mae'n rhaid i'r chwaraewyr sylweddoli y bydd rhaid iddynt dderbyn toriadau enfawr mewn cyflogau os ydynt am chwarae rygbi yng Nghymru."

Y gred yw y gallai bachwr y Gweilch, Huw Bennett, fod yn un o'r chwaraewyr fydd yn chwarae'r tu allan i Gymru yn y dyfodol agos.

'Toriadau mawr'

"Eisoes rydyn ni wedi clywed am Huw Bennett, a bod Paul James ac Ian Evans o'r Gweilch heb gael cynnig cytundebau ar gyfer y flwyddyn nesaf," meddai Jones.

"Mae'r Gleision wedi dweud yn barod y byddan nhw'n cael gwared â llawer o chwaraewyr.

"Mae'n rhaid i chi ystyried hyn o safbwynt rhai o'r cadeiryddion, sydd wedi buddsoddi arian mewn clybiau am flynyddoedd i gynnal fframwaith sydd ddim yn gweithio - dyw'r buddsoddiad ddim yn werth yr arian maen nhw'n talu'r chwaraewyr.

"Felly, mae'n rhaid i'r chwaraewyr sylweddoli y bydd rhaid iddynt dderbyn toriadau mawr mewn cyflogau os ydynt am aros yng Nghymru - neu chwarae'r tu allan i Gymru.

"Rwy'n meddwl y bydd ailstrwythuro enbyd o ran rygbi rhanbarthol yng Nghymru."

Codi arian

Mae'r Gleision, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau eisoes wedi dweud y byddan nhw'n talu uchafswm o £3.5m o ran cyflogau'r tymor nesaf, o'i gymharu ag uchafswm cyflogau o £7.1m yn Ffrainc.

Ar hyn o bryd mae prif chwaraewyr Cymru yn derbyn cyflog cyson gan eu clybiau neu ranbarthau, yn ogystal â chytundeb ag Undeb Rygbi Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol.

Mae'r pedwar rhanbarth yn cael eu hariannu'n rhannol gan yr undeb, sy'n rhoi £6m rhwng y pedwar ohonynt bob blwyddyn.

Ond mae'n rhaid i'r rhanbarthau godi gweddill yr arian eu hunain.

Er gwaethaf llwyddiant y tîm cenedlaethol, mae nifer y bobl sy'n gwylio'r gemau rhanbarthol wedi bod yn isel.

Yn ddiweddar penderfynodd y Gleision ddychwelyd i'w cyn gartref ym Mharc yr Arfau ar gyfer rhai o'u gemau oherwydd tyrfaoedd isel yn Stadiwm Caerdydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol