Rhybudd am fwy o law trwm a llifogydd posib i'r de a'r canolbarth

Mae rhybuddion mewn grym ar gyfer pob sir yn ne a chanolbarth Cymru ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ddydd Mawrth, gan ddweud y gallai arwain at lifogydd a thrafferthion teithio mewn mannau.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau o bob sir yn y canolbarth a'r de, rhwng 07:00 a 23:59.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, bydd y glaw yn drwm a pharhaus ar adegau, gyda'r tywydd gwaethaf yn ystod y prynhawn ac ar ddechrau'r nos.
Daw'r rhybudd wythnos ar ôl i'r de-orllewin brofi llifogydd difrifol, gyda busnesau lleol yn dal i lanhau ar ôl y difrod.

Daw'r rhybudd diweddaraf wythnos ar ôl i lifogydd achosi difrod sylweddol yn y de-orllewin, fel yma yn Hendy-gwyn ar Daf
Mae disgwyl i hyd at 50mm o law ddisgyn yn eang ar draws y de, a hyd at 80mm mewn rhai ardaloedd, ac fe allai achosi toriadau pŵer.
Mae rhybuddion hefyd am wyntoedd cryfion o'r de, gan greu amodau teithio anodd i ac oedi posib ar fysiau a threnau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r rhybudd gael ei ymestyn, neu y gallai rybudd newydd gael ei gyhoeddi ar gyfer bore Mercher os oes mwy o law yn debygol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
