Talent yn cyffroi cyfarwyddwr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Cymeriadau o Hunky DoryFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith yr actorion Cymreig yn y ffilm y mae Aneurin Barnard a Darren Evans

Mae'r cyfarwyddwr ffilm Marc Evans wedi canmol y dalent gyfoethog sydd ar gael yng Nghymru.

Mae'r mwyafrif llethol o actorion ei ffilm ddiweddara, Hunky Dory, yn Gymry.

Dywedodd ar drothwy rhyddhau ei ffilm bod perfformio yn gryf ymhlith yr ifanc a bod cynhyrchwyr ffilm yn cael eu denu i Gymru.

Roedd premier y ffilm yng Nghaerdydd nos Fercher.

"Roedd 99% o'r actorion yn Gymry ar ôl i ni fynd i chwilio am y cast," meddai Evans.

"Roedd yn rhaid castio cerddorfa a chôr llawn yn ogystal â'r prif gymeriadau."

Dywedodd Mr Evans iddo ymweld ag ysgolion, clybiau ieuenctid a cholegau am y cast ac roedd yn falch iawn o ganfod pobl dalentog.

"Mae perfformio yn beth mor gryf ymhlith pobl ifanc Cymreig ac Eingl-Gymreig," meddai.

"Mae'r eisteddfodau yn rhan o hynny, ond mae yna hefyd grwpiau drama ieuenctid gwych yng ngorllewin Morgannwg.

"Mae rhai fel Michael Sheen, Ruth Jones a Rob Brydon i gyd wedi dod o'r grwpiau yma a dwi'n meddwl falle rŵan bod pobl yn dod i Gaerdydd i astudio yn hytrach na Llundain."

Ddim yn hawdd

Dywedodd ei fod yn credu bod Cymru yn parhau i fod yn atyniad i gynhyrchwyr ffilmiau.

"Mae denu pobl yma wastad wedi bod yn rhwyddach oherwydd ein tirwedd," eglurodd.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Hunky Dory, gyda Minnie Driver yn y sinema o Fawrth 2

"Er, o safbwynt gwneud ffilmiau ein hunain, am ein hunan, mae hynny'n fwy caled.

"D'yw hi ddim yn hawdd gwneud ffilm.

"Does dim gymaint o arian allan yna; ddaru ni brin gymryd cyflog i wneud Hunky Dory er mwyn cael y ffilm allan."

Ond dywedodd bod 'na gyfnod ffrwythlon yng Nghymru, gyda ffilmiau fel Submarine, Resistance a Phatagonia.

"Mae pedwar neu pum ffilm mewn dwy flynedd yn dda i wlad fach fel ni," meddai.

Roedd sêr y byd actio yng Nghaerdydd ar gyfer y premiere o Hunky Dory nos Fercher.

Cafodd y ffilm ei lleoli yn ne Cymru ac yn adrodd hanes helyntion sioe gerdd y disgyblion ac wedi ei lleoli yn y 1970au.

Haf crasboeth

Ymhlith yr actorion i fynychu'r dangosiad cyntaf yn Cineworld Caerdydd roedd Minnie Driver.

Mae hi'n chwarae athrawes yn y ffilm sy'n dychwelyd i dref ei phlentyndod ac yn benderfynol o ysbrydoli'r bobl ifanc.

Mae teulu'r actores ei hun yn hanu o Abertawe.

Ond yn ôl Marc Evans roedd ail-greu haf crasboeth 1976 yn sialens yn Abertawe a Phort Talbot yn 2010 yn ôl y cyfarwyddwr.

"Does dim modd ffugio haul.

"Byddem yn edrych draw dros y bae i'r gorllewin ac yn gweld y storm yn dod mewn ac roedd pawb yn deall ein bod gorfod newid pethau o gwmpas er mwyn bod yn hyblyg.

"Ond roedd yn grêt cael ffilmio yng Nghymru.

Ei her nesaf yw canfod actores ifanc gyda'r llais i chwarae Shirley Bassey mewn ffilm o'i bywyd cynnar yn Tiger Bay, Caerdydd.

Bydd Hunky Dory i'w gweld mewn 60 sinema ledled Prydain o Fawrth 2 2012.