Cymeradwyo cynllun i ddymchwel pont

  • Cyhoeddwyd
Pont BriwetFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pont Briwet ei hadeiladu ym 1867

Mae cynllun i ddymchwel traphont restredig Gradd II a chodi pont newydd yn ei lle wedi ei gymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae Pont Briwet ym Mhenrhyndeudraeth yn 150 oed ac yn cario trenau ar Lein y Cambrian a thollffordd ar gyfer ceir.

Ddydd Mercher cafodd y cynllun sy'n werth £20m, fydd yn cynnwys lonydd ar gyfer cerddwyr a seiclwyr, ei gymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae cwmnïau lorïau a bysiau lleol wedi bod yn galw ers blynyddoedd am godi pont newydd.

Adeilad eiconig

Ar hyn o bryd mae gyrwyr lorïau a bysiau yn gorfod teithio 8 milltir (12 cilometr) yn fwy na gyrwyr ceir rhwng Penrhyndeudraeth a ffordd Harlech.

Bydd y bont newydd yn gynllun ar y cyd rhwng Network Rail, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Yn ôl adroddiad gan Barc Cenedlaethol Eryri gafodd ei ystyried gan yr awdurdod ddydd Mercher, mae'r bont yn "brin iawn".

Ychwanegodd yr adroddiad fod Pont Briwet yn cael ei hadnabod fel adeilad eiconig sydd o bwysigrwydd cenedlaethol o ran tirwedd.

Yn dilyn cyfarfod ym mis Ionawr eleni dywedodd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad yr awdurdod y byddai'r datblygiad yn creu "manteision arwyddocaol i'r gymuned fyddai'n drech na'r golled wedi i'r bont gael ei dymchwel".

Yn ôl yr adroddiad roedd yr ymgeisydd am ddarparu ffordd fyddai'n addas ar gyfer pob math o gerbyd.

"Bydd y bont newydd yn 18 metr o ran lled o'i gymharu â 8.5 metr, sef lled y bont gyfredol," meddai'r adroddiad.

Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau eleni a chael ei gyflawni ymhen dwy flynedd.