Hybu diddordeb plant yn y celfyddydau
- Cyhoeddwyd
Mae Pontio, canolfan newydd Bangor i'r celfyddydau ac arloesi, wedi lansio prosiect newydd i hybu diddordeb plant yn y celfyddydau.
O Chwefror i Ebrill 2012 bydd 20 ysgol gynradd yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn cymryd rhan mewn gweithdai, a gynhelir ar y cyd ag Ensemble Cymru.
Bwriad y rhain yw annog disgyblion i werthfawrogi cerddoriaeth a barddoniaeth a chymryd rhan ynddynt.
Bydd y bardd a'r awdur Cymraeg Aled Lewis Evans a'r clarinetydd amlwg Sioned Roberts yn arwain y gweithdai.
Meddai Dyfan Roberts, swyddog datblygu'r celfyddydau yn Pontio:
"Bwriad y gweithdai cerddoriaeth a barddoniaeth yma ydy annog plant i edrych ar eu hemosiynau wrth ymateb i gerddoriaeth, a thanio eu diddordeb o ran profi'r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.
"Rydym yn gobeithio cael plant i werthfawrogi cerddoriaeth a barddoniaeth fwyfwy a chynyddu ymwybyddiaeth o ddiwylliant cerddorol Cymreig yr un pryd."
Disgwylir i Pontio, canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi, agor yn 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2012