Cwmni Redrow yn gwneud elw

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni adeiladu Redrow wedi gweld cynnydd mewn elw cyn treth yn y chwe mis hyd at fis Rhagfyr.

Fe wnaeth y cwmni o Sir y Fflint £15.3 miliwn.

Mae hyn 80% yn uwch na'r £8.5 miliwn ar gyfer yr un adeg y llynedd.

Dywedodd sefydlydd Redrow, Steve Morgan, bod eu cynlluniau yn "mynd o nerth i nerth".

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1974.

Fe wnaeth Mr Morgan, perchennog clwb pêl-droed Wolverhampton Wanderers, ail-ymuno â'r cwmni dair blynedd yn ôl ar ôl canlyniadau gwan.

Y gobaith yw codi mwy o dai i deuluoedd yn hytrach na fflatiau.

"Mae'r canlyniadau yma heddiw yn dangos bod y newid yn ein strategaeth yn talu ffordd," meddai Mr Morgan.

Dywedodd Redrow bod arwyddion gobeithiol am ddyfodol y farchnad dai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol