Claddu cyrff 'y ffordd anghywir'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yn Aberystwyth wedi honni bod cyrff yn cael eu claddu'n anghywir mewn mynwent - o'r gogledd i'r de yn lle o'r dwyrain i'r gorllewin, y traddodiad Cristnogol.
Dywedodd Aled Davies fod trigolion oedrannus wedi cysylltu ag ef ynglŷn â'r mater a'i fod e'n galw ar Gyngor Ceredigion i gywiro'r broblem.
Mae'r cyngor wedi dweud nad oedd ymholiad Mr Davies yn ymwneud â deddfwriaeth.
Yn ôl Mr Davies, cynghorydd tref a sir Plaid Cymru, mae trigolion yn poeni am fynwent Cefn Llan gafodd ei hagor yn 2006.
'Problem ddifrifol'
"Efallai bod y mater yn bitw ond mae rhai trigolion yn anhapus ac mae'n broblem ddifrifol iddyn nhw."
Mae'r cyngor yn berchen ac yn cynnal a chadw pum mynwent yn y sir.
Dywedodd llefarydd: "Mae mynwent Cefn Llan wedi ei chynllunio i wneud y defnydd gorau o'r tir a gostwng y costau wrth baratoi beddau ar lethrau serth.
"Mae'r rhan helaeth o'r safle gyda beddau o'r gogledd i'r de ond gall beddau fod o'r dwyrain i'r gorllewin yn rhan o'r fynwent ac mae'n bosib gofyn am gladdedigaethau yn y rhan hon."
Dywedodd y cyngor nad oedd rhai o rannau cysegredig yr hen fynwent â beddau'n wynebu i gyfeiriad y gorllewin.