Deiseb i geisio cadw banc
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar HSBC i gadw banc olaf Blaenafon ar agor.
Dywedodd HSBC y bydd y gangen leol yn cau ar Fai 11 oherwydd nad yw'n cael digon o fusnes.
Ym mis Ionawr daeth dros 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn y dre i wrthwynebu'r bwriad.
Dywed pobl leol fod y gangen yn hanfodol neu byddai'n rhaid teithio chwe milltir i unai Pont-y-pŵl neu'r Fenni ar gyfer gwasanaeth banc.
Dywedodd Maer Blaenafon Stuart Evans, iddynt gasglu tua 1,200 o enwau ar ddeiseb yn galw ar HSBC i ailfeddwl.
Cyfleusterau bancio
"Roeddem yn siomedig iawn gydag agwedd HSBC. Doedd neb yn disgwyl gwyrthiau, maen nhw'n fusnes ar ddiwedd y dydd.
"Ond mae'n hynod bwysig fod yna gyfleusterau bancio ym Mlaenafon.
"Mae yna boblogaeth hŷn yma sydd heb drafnidiaeth, mae yna hefyd nifer fawr o bobl ifanc di-waith heb drafnidiaeth".
'Teimlo'n gryf'
Dywedodd llefarydd ar ran HSBC: "Rydym yn cydnabod fod pobl leol yn teimlo'n gryf ond dyw hyn ddim yn newid y ffaith mai'r gangen yw un o'r rhai sy'n cael y lleiaf o ddefnydd yn yr holl wlad. "
Ychwanegodd eu bod yn bod yn rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid ynglŷn â bancio ar y ffôn neu'r we.
"Bydd yna beiriant yn y wal yn parhau yn y dre, felly bydd modd i bobl godi arian."
Mae HSBC hefyd yn wynebu gwrthwynebiad wrth geisio cau cangen yn Llanandras, Powys.
Bydd y gangen yn cau ar Fawrth 9 ac mae dros 500 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r bwriad.
Mae HSBC wedi neu ar fin cau 20 o ganghennau yng Nghymru ers 2009.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012