Bennett yn mynd i Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Huw BennettFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bennett:Bydd yn chwarae yn Lyon y tymor nesa

Mae bachwr y Gweilch, Huw Bennett, wedi dweud ar wefan Twitter ei fod yn ymuno â chlwb Lyon yn Ffrainc ar ddiwedd y tymor.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y prop Gethin Jenkins y bydd yntau'n gadael y Gleision er mwyn ymuno â chlwb Toulon ar gytundeb dwy flynedd.

Bennett yw'r diweddara' o enwau mawr y Gweilch i adael.

'Dymuno'n dda'

Mae Mike Phillips, James Hook a Lee Byrne eisoes yn chwarae yn Ffrainc.

"Dwi'n edrych ymlaen at sialens newydd o chwarae yn Ffrainc gyda Lyon," meddai Bennett ar Twitter.

"Tan hynny byddaf yn llwyr ymroddedig i orffen y tymor ar nodyn uchel," ychwanegodd.

"Rwyf eisiau diolch i'r Gweilch a'r cefnogwyr anhygoel am naw mlynedd wych."

Dywedodd hyfforddwr blaenwyr y Gweilch, Jonathan Humphreys, "fod yna bosibilrwydd cryf y bydd Bennett yn gadael".

"Pe bai e'n mynd, yna byddwn yn dymuno'n dda iddo."

Ar ddiwedd y tymor mae disgwyl y bydd yr asgellwr Tommy Bowe yn gadael y Gweilch gan ymuno ag Ulster, tra bydd y blaenwr Tom Smith yn ymuno â'r Gwyddelod yn Llundain.

Hefyd bydd yr asgellwr Shane Williams yn ymddeol.

Mae'r Gweilch, fel rhanbarthau eraill Cymru, nawr yn gorfod dygymod â gosod cap cyflogau o £3.5 miliwn ar gyfer y tymor nesaf.

Yn ôl sylwebyddion, bydd hi'n anodd i ranbarthau Cymru gystadlu â thimoedd Ffrainc a Lloegr wrth gynnig cytundebau cystadleuol.