Jenkins i chwarae yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad y bydd prop y Gleision, Gethin Jenkins, yn ymuno â Toulon ar gytundeb dwy flynedd.
Ef yw'r diweddara o chwaraewyr Cymru i symud i Ffrainc.
Mae'r chwaraewyr rhyngwladol Mike Phillips, James Hook a Lee Byrne eisoes yn chwarae ar y cyfandir, ac mae'r asgellwr Aled Brew newydd gytuno i ymuno â Biarritz.
'Dim dewis'
Mae sôn hefyd fod Perpignan yn targedu'r clo rhyngwladol, Luke Charteris.
Dywedodd Jenkins y bydd yn gadael y Gleision ddiwedd y tymor.
"Byddai'n bendant yn gadael ac ydw, rwy'n mynd i Ffrainc," meddai Jenkins wrth bapur newydd y Western Mail.
Dywedodd Jenkins ei bod wedi dod i'r amlwg nad oedd ei glwb am ei dalu tra'i fod ar ddyletswyddau rhyngwladol.
"Roeddwn yn teimlo nad oedd dewis yn y diwedd," meddai.
Mae Jenkins, sy'n 31 oed, wedi ennill 84 o gapiau rhyngwladol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012