Geiriadur yr Academi yn ddigidol

  • Cyhoeddwyd

Bydd Geiriadur yr Academi ar gael ar y we o hyn ymlaen.

Gyda dros 90,000 o gofnodion, bydd y gyfrol Saesneg i Gymraeg mwyaf o'i fath ar gael am ddim ar wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Wrth lansio fersiwn ar-lein o'r Geiriadur, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones:

"Ers lansio'r gyfrol brint yn 1995 mae campwaith Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones wedi bod yn gydymaith cwbl hanfodol i unrhyw un sy'n defnyddio'r Gymraeg - yn enwedig yn y gwaith ac ym myd addysg.

"Rwy'n eithriadol o falch o weld y Geiriadur ar-lein yn gweld golau dydd, a bod y Bwrdd wedi buddsoddi yn y gwaith.

"Carwn ddiolch i Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor am eu cyfraniad a'u harbenigedd technolegol, a hefyd i'r holl brawf-ddarllenwyr ar hyd ac ar led Cymru sydd wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yn sicrhau bod y cofnodion wedi trosglwyddo i ffurf ddigidol, gan ddiogelu'r adnodd am byth."

Dywedodd Golygydd y Geiriadur, Bruce Griffiths, "Genhedlaeth yn ôl, gwaith pensel, papur a theipiadur, gan olygydd a'i unig gynorthwyydd, fu creu Geiriadur yr Academi.

Cyfoeth tafodieithol

"Bellach, trwy'r dechnoleg ddiweddaraf, bydd y Geiriadur ar-lein, ar flaenau bysedd pawb yn y byd a fynno ddod i adnabod y Gymraeg.

"I Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a'i weledigaeth, y mae'r genedl yn ddyledus am y gymwynas fawr hon."

Bydd gwaith i addasu ac adnewyddu'r geiriadur yn parhau o dan arweiniad y Comisiynydd Cymraeg fydd yn cymryd lle Bwrdd Iaith ar Fawrth 1.

Ychwanegodd y llenor a'r darlledwr, Catrin Dafydd:

"Mae'n gyffrous gwybod y bydd yr idiomau a'r cyfoeth tafodieithol sydd o'i fewn yn cyrraedd rhagor o bobl drwy gyfrwng y we fyd eang gan gyfrannu at sicrhau fod y Gymraeg yn rhan annatod o fywyd yn yr unfed ganrif ar hugain."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol