Chwilio am Ddysgwr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Kay HolderFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Kay Holder oedd yn fuddugol yn 2011

Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn annog siaradwyr Cymraeg i enwebu rhywun ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2012 - mis cyn dyddiad cau'r gystadleuaeth.

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo person sydd wedi dysgu Cymraeg yn dda, ac sy'n defnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd.

Bydd rhestr fer o bedwar person yn cael ei llunio, gyda'r enillydd yn cael ei ddewis ar Awst 8 yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £300 a thlws Dysgwr y Flwyddyn, gyda'r tri arall ar y rhestr fer yn derbyn £100.

"Mae mis i fynd cyn y dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni," meddai Gwennol Haf, Swyddog Dysgwyr yr Eisteddfod.

Cyfle ardderchog

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gystadleuaeth hon wedi datblygu'n un o uchafbwyntiau'r Eisteddfod, a chyda'r pwyslais ar siarad a defnyddio'r Gymraeg, mae'n gyfle ardderchog i wobrwyo unrhyw un sydd wedi dysgu'r iaith."

Y llynedd roedd 21 o bobl wedi cystadlu am y fraint, gyda cheisiadau o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Yr enillydd oedd Kay Holder o Ddinas Powys, Bro Morgannwg.

Eleni noddir y gystadleuaeth gan gorff addysg Agored Cymru.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn cael ei chynnal ar dir hen faes awyr Llandw rhwng Awst 4-11 Awst, gyda noson Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Bear, Y Bontfaen nos Fercher 8 Awst.

Mae manylion a ffurflen gais ar gael o'r Eisteddfod Genedlaethol, dolen allanol, a'r dyddiad cau yw Mawrth 31.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol