Llundain 2012: Conwy yn rhan o ddathliad y fflam

  • Cyhoeddwyd
Paralympwyr Cymru yn cael croeso adre ar ôl y Gemau yn BeijingFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Paralympwyr Cymru i ennill chwarter y medalau aur ar gyfer Tîm GB yn 2008

Mae un o siroedd gogledd Cymru wedi ei dewis fel lleoliad ar gyfer "dathliad y fflam" sy'n rhan o Daith Gyfnewid y Fflam Paralympaidd Llundain 2012.

Fe fydd Conwy yn ymuno â dros 30 o leoliadau ledled y DU sydd wedi ei dewis gan y Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd.

Daw'r cyhoeddiad chwe mis union cyn i'r Gemau Paralympaidd ddechrau ar Awst 29.

Cafodd y fflam Paralympaidd cael ei dadorchuddio gan gyn-enillydd medal aur Paralympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mharc Eirias, Bae Colwyn.

Cymunedau llai

Bydd Cymru yn goleuo ei fflam ei hun fel rhan o'r dathliadau cyn y Gemau Paralympaidd.

Bydd fflamau yn cael eu goleuo yng Nghaerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin, ar y cyd a digwyddiad yng nghartref y mudiad Paralympaidd yn Stoke Mandeville yn Sir Buckingham ddydd Mawrth, Awst 28, cyn y cyfnewid ar gyfer y seremoni agoriadol.

Bwriad Conwy yw bod yn rhan o gynllun sy'n anelu at gynnwys cymunedau llai yn y digwyddiad mawr.

Fe fydd dros 4,200 o athletwyr ag amrywiaeth o anableddau, o 150 o wledydd, yn cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 a fydd yn parhau tan Fedi 9.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol