Llosgydd yn 'bygwth bywyd gwyllt'

  • Cyhoeddwyd
Llosgydd arfaethedig LlanwernFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llosgydd arfaethedig yn Llanwern yn rhan o brosiect gan bum awdurdod lleol i geisio delio gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu

Gallai cynefinoedd cenedlaethol pwysig fod dan fygythiad os fydd llosgydd gwastraff yn cael ei godi yng Nghasnewydd, yn ôl grŵp amgylcheddol.

Dywed Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent bod y bygythiad i fywyd gwyllt yn aber Afon Hafren a Gwastadeddau Gwent yn rhy uchel.

Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun eu bod wedi cynnal asesiad amgylcheddol cynhwysfawr ar y safle.

Mae'r prosiect yn rhan o gynlluniau pump o gynghorau De Cymru i ddelio gyda gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Yn wreiddiol roedd pedwar o brosiectau ar y rhestr fer y cynllun, sy'n cael ei adnabod fel y Prosiect Gwyrdd, ond bellach dim ond Llanwern ac un arall yn ardal Sblot yng Nghaerdydd sy'n weddill.

Mae disgwyl i benderfyniad terfynol ar y mater gael ei wneud yn yr hydref.

Diwydiant

Mae'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt wedi ysgrifennu at Gyngor Casnewydd i wrthwynebu'r cynllun yn ffurfiol.

Maen nhw'n mynegi pryder yn arbennig am effeithiau'r cynllun ar Wastadeddau Gwent sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol oherwydd ei blanhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Dywedodd cwmni Veolia Environmental Services, sy'n gyfrifol am gynllun Llanwern, bod gan y safle hanes o ddefnydd diwydiannol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Fel rhan o'r cais cynllunio i Gyngor Casnewydd, fe gynhaliwyd asesiad effaith amgylcheddol cynhwysfawr mewn perthynas â chyd-destun ecolegol y cais, ac fe fydd pob ymateb i'r broses gynllunio yn cael eu hystyried fel rhan o'n proses ymgynghori.

"Rydym yn credu mai'r adnodd o fewn safle gwaith dur Llanwern, sydd â hanes o ddefnydd diwydiannol, yw'r safle mwyaf priodol ar gyfer adnodd atafael ynni i wasanaethu'r pum awdurdod.

"Bydd yn ddelfrydol i gyflenwi gwres a 20MW o ynni i'r gwaith dur gerllaw, ac mae cysylltiadau i'r rhwydwaith ffyrdd presennol yn dda.

"Ychydig iawn o safleoedd prosesu gwastraff yn y DU sy'n cynhyrchu trydan a gwres, ond mae'r dull effeithlon iawn yma yn lleihau ôl-troed carbon y gwaith dur ac yn darparu ynni rhad sy'n rhannol adnewyddol."

Ychwanegodd y cwmni eu bod wedi ymrwymo i gyflogi pobl leol lle mae hynny'n bosib, a'u bod yn disgwyl cyflogi tua 350 o swyddi wrth godi'r llosgydd, a 45 o swyddi parhaol wedyn.

Targedau

Y pum awdurdod sy'n rhan o Prosiect Gwyrdd yw Caerffili, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg.

"Nod y pum awdurdod yw ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosib yn unol â thargedau gwastraff Llywodraeth Cymru, ond rhaid creu'r isadeiledd i drin y gwastraff sy'n weddill yn hytrach na'i yrru i safleoedd tirlenwi," meddai llefarydd ar ran Prosiect Gwyrdd.

Erbyn 2025, rhaid i gynghorau Cymru ailgylchu lleiafrif o 70% o'u gwastraff, a dim ond 5% fydd yn cael mynd i safleoedd tirlenwi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol