Morfil wedi cael ei ddifa ger arfordir Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Morfilood pengrwnFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae morfilod pengrwn yn gyffredin ger yr arfordir

Mae arbenigwyr wedi gorfod difa morfil oedd wedi mynd yn sownd ar draeth ger Aberdaugleddau.

Roedd y creadur pedwar metr o hyd yn y dŵr ddydd Mercher cyn cyrraedd traeth sawl milltir i fyny'r aber ddydd Iau.

Mae arbengiwyr yn credu mai morfil pengrwn yw'r anifail.

Dywedodd Cliff Benson o elusen Ymddiriedolaeth y Môr: "Fe gawson ni glywed am y morfil gan staff purfa olew gerllaw welodd yr anifail yn nofio i fyny'r aber.

"Er fy mod yn credu mai morfil pengrwn oedd e, roedd yn anifail mawr serch hynny."

Bu arbengiwyr yn asesu cyflwr y morfil cyn penderfynu os fyddai ymgais i'w gario i'r dŵr mawr.

Ond wedi'r asesiad fe ddaeth yn amlwg bod y morfil yn marw ac na fyddai modd ei achub, ac fe wnaed y penderfyniad y byddai'n garedicach ei ddifa.

Dywed arbenigwyr nawr y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar gorff y morfil ddydd Gwener er mwyn ceisio canfod sut y daeth i fod yn sownd yn y lle cyntaf.