Cofio'r Cymro cyflymaf erioed- Tom Pryce

  • Cyhoeddwyd
Tom PryceFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Tom Pryce yn ei adnabod wrth ei enw canol - Maldwyn

35 mlynedd yn ôl bu farw'r gyrrwr rasio Fformiwla 1 o Gymru, Tom Pryce. Mae Aled Jones yn gynhyrchydd gyda'r BBC, ond hefyd wedi dilyn y gamp ers tro, ac yn enwedig gyrfa Pryce. Dyma'i atgofion o'r dyn tawel o Ruthun.

Rydan ni yn brin o arwyr yng Nghymru.

Rhai cyfoes, cyffrous sydd yn gallu sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r goreuon yn eu maes ar lwyfan byd-eang. Trwy ryw drugaredd, mae arwyr trasig yn brinnach fyth.

Ysywaeth, arwr trasig oedd Tom Pryce.

Byd brau a pheryglus oedd byd Fformiwla 1 yn ystod y 1970au - magwrfa nifer o enwau mawr y gamp ogoneddus wallgof o rasio ceir.

Dyma ddegawd Ronnie Peterson, Niki Lauda, James Hunt, Jacky Ickx, Jody Scheckter, Clay Regazzoni, Mario Andretti a, thua diwedd y degawd, Gilles Villeneuve - meistri, pob un, ar yrru ceir gwyllt ar gyflymdra gorffwyll dan amodau ymylai, yn amlach na pheidio, ar yr amhosib.

Ymhlith y meistri hyn, cyfrwch y Cymro tawel o Ruthun.

Gyrru yn y glaw

Ganed Thomas Maldwyn Pryce (Maldwyn i'w deulu a'i gyfeillion) ar Fehefin 11, 1949 - heddwas oedd ei dad, nyrs oedd ei fam.

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pryce yn un o'r goreuon erioed am yrru ar drac gwlyb

Yn ôl y son, roedd o wedi rhoi ei fryd ar fod yn yrrwr rasio yn gynnar iawn, ond i Goleg Technegol Llandrillo yr aeth o ar ôl ymadael a'r ysgol i gael ei hyfforddi fel peiriannydd amaethyddol.

Ond roedd ei fryd yn dal i fod ar rasio ceir. Ei arwr mawr oedd Jim Clark, ac fe gafodd marwolaeth Clark mewn ras Fformiwla 2 yn Hockenheimring yn 1968 effaith ddwys iawn arno.

Yn ôl un o'i gyfeillion cynnar, roedd gallu Maldwyn i reoli car ar gyflymdra yn ymylu ar y gwyrthiol, ac yn enwedig felly ar lonydd gwlyb.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai yn gwneud enw iddo'i hun fel un o'r gyrwyr Fformiwla 1 cyflyma yn y glaw - yn trechu Hunt, Lauda, a Jochen Mass - ac mae yna adlais o allu Pryce i reoli car yn y glaw i'w weld yng ngyrru Jenson Button y dyddiau hyn.

Cyfle cyntaf

Roedd Pryce yn 20 oed pan gafodd gyfle i fynd i'r afael a char rasio o ddifrif, a hynny yn Mallory Park dan hyfforddiant Trevor Taylor, oedd wedi cyd-yrru i Lotus gyda Jim Clark yn y 1960au.

Cyn bo hir, roedd o yn cystadlu yn y fformiwlâu is, megis Fformiwla 5000 a Fformiwla Ford, a Fformiwla Super-Vee ac yn magu enw fel gyrrwr cyflym a llwyddiannus.

Rhoddodd y gore i'w waith fel peiriannydd amaethyddol ac, yn 1971, cafodd ei gyfle cyntaf i rasio mewn car Fformiwla 3.

Yn ystod ras cyn y Grand Prix yn Monaco, yn 1972, cafodd car Pryce ei daro gan gar arall a thorrodd y Cymro ei goes, ond yn nodweddiadol o wydnwch gyrwyr rasio'r oes honno, roedd o yn ôl wrth y llyw ymhen pythefnos.

Erbyn hyn, un categori safai rhwng Pryce a gyrfa yn Fformiwla 1, ac fe gafodd gyfle i yrru car Fformiwla 2 i Ron Dennis, oedd yn rheoli Rondel Racing ar y pryd, yn 1973.

Blwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei gyfle cyntaf i gystadlu yn Fformiwla 1 gyda Token Racing.

I Pryce, oedd wedi hen arfer a bod ymhlith y cyflymaf a'r mwyaf llwyddiannus ymhlith gyrwyr y categorïau eraill, doedd ei dymor cyntaf yn Fformiwla 1 ddim yn un da, a chafodd ei hun yn ôl yn Fformiwla 3 cyn diwedd y flwyddyn.

Ail gyfle

Dychwelodd i Fformiwla 1 cyn bo hir gyda thîm Shadow erbyn hyn, ac erbyn tymor 1975 datblygodd Shadow gar gwell - y Shadow DN5 - car alluogodd Pryce i ennill ei ras Fformiwla 1gyntaf - y Race of Champions yn Brands Hatch.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae cofeb arbennig i Tom Pryce yn ei dref enedigol

Er na enillodd Pryce ras arall y flwyddyn honno, gorffennodd yn y 10 cyntaf mewn saith ras arall.

Roedd o ymhlith gyrwyr gorau ei genhedlaeth.

Roedd datblygiadau technegol yn digwydd yn gyson a chyflym yn Fformiwla 1 yn y 1970au, fel heddiw, a methodd Shadow a chadw i fyny a gwelliannau'r timau mawr yn 1976, er bod Pryce wedi llwyddo i orffen yn y 10 cyntaf droeon.

James Hunt oedd y pencampwr y flwyddyn honno a Pryce yn 12fed.

Methodd Pryce a gorffen dwy ras gyntaf 1977 oherwydd trafferthion mecanyddol.

Cafodd broblemau technegol ar ddechrau'r drydedd ras, yn Kyalami yn Ne Affrica, hefyd; roedd ei DN8 yn olaf ar ddiwedd y lap gyntaf, ond llwyddodd i oddiweddyd car ar ôl car serch hynny ac erbyn y 18fed cylch roedd o yn 13eg.

Trasiedi

Yna, tair lap yn ddiweddarach, digwyddodd y ddamwain erchyll gipiodd fywydau dau ŵr ieuanc ac amddifadu Cymru o'i phencampwr Fformiwla 1 cyntaf.

Roedd car Pryce yn rhuthro heibio ar 180 mya pan redodd un o swyddogion y trac allan i'w lwybr yn cario diffoddydd tân - roedd car cyd-yrrwr Pryce, Renzo Zorzi, ar dân.

Doedd dim allai Pryce wneud i osgoi'r ddamwain.

Tarodd y swyddog a'i ladd yn y fan a'r lle, tarodd y diffoddydd tân Pryce ar ei ben a'i ladd yntau yn syth.

Ystyrir hon yn un o'r damweiniau mwyaf erchyll yn hanes Fformiwla 1, ac yn un o'r rhai mwyaf trasig.

Roedd Pryce yn yrrwr uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-yrwyr ac ymhlith gwybodusion y byd rasio ceir, a'r farn gyffredinol yw y byddai wedi bod yn bencampwr ymhen blwyddyn neu ddwy.

Hyd at heddiw, mae'r gyrwyr a pherchnogion timau oedd yn ei adnabod, Jackie Stewart a Ron Dennis yn eu plith, yn dal i gofio'r Cymro tawel o Ruthun gyda pharch mawr ac yn hiraethu am y bencampwriaeth nas henillwyd.

Niki Lauda enillodd y ras honno yn Kyalami - wnaeth o ddim dathlu.