Ffilm gan Brifysgol Cymru Casnewydd yn trafod di-gartrefedd
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Cymru Casnewydd wedi denu actorion enwog i serennu yn eu ffilm newydd.
Bydd Loserville, sy'n adrodd hanes merch ddigartref, yn cael ei darlledu ar BBC2 Cymru nos Fawrth.
Mae'n cynnwys cyfraniadau gan yr actores o Rydaman Alexandra Roach, oedd yn portreadu'r Margaret Thatcher ifanc yn y ffilm The Iron Lady a Denise Welch, o Waterloo Road.
Cafodd y ffilm ei hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Peter Watkins-Hughes, darlithydd yn Ysgol Ffilm Casnewydd, sydd wedi ei enwebu am sawl gwobr BAFTA yn y gorffennol.
Mae'n dilyn K, merch ifanc sy'n canfod ei hun ar y strydoedd, yn dlawd ac yn unig.
Ariannwyd y prosiect £30,000 gyda grant gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cael ei dosbarthu i ysgolion ledled Cymru er mwyn annog trafodaeth am effaith colli cartref.
"Trwy gydol fy ngyrfa gyda'r BBC ac ITV, dwi wedi creu enw da am gynhyrchu dramâu am weithredoedd cymdeithasol," meddai Mr Watkins-Hughes.
"Yng Nghasnewydd, dwi wedi gallu parhau i greu'r math yma o ddramâu gyda chymorth y myfyrwyr.
"Nid yw'n bosib iddyn nhw ddysgu popeth am greu ffilmiau mewn darlithoedd - rhaid mynd allan a dechrau creu rhywbeth."
Yn 2009, enwebwyd ffilm arall gan dîm Casnewydd ar gyfer BAFTA.
Mewn cydweithrediad gyda Heddlu Gwent, daeth y ffilm COW yn enwog ledled y byd ar y rhyngrwyd mewn ymgyrch i dynnu sylw at beryglon anfon negeseuon testun wrth yrru.
Yn sgil y llwyddiant yma, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ffilm Annibynnol Gwent ar y cyd rhwng y Brifysgol a Heddlu Gwent i hybu rhagor o gynyrchiadau ffilm.
Gwaith ar y gweill
"Dwi'n credu bod llwyddiant COW wedi arwain pobl i ymddiried yn ein gallu i greu gwaith da," meddai'r Athro Christopher Morris, Pennaeth Adran Dogfennau Ysgol Ffilm Casnewydd.
"Rydym wedi profi y gall Ysgol Ffilm Casnewydd gynhyrchu rhaglenni sydd werth eu darlledu ar arian bach iawn."
Er bod cyn-fyfyrwyr, sy'n rhan o'r tîm cynhyrchu yn derbyn arian, mae'r myfyrwyr yn gweithio am ddim yn ystod eu hamser rhydd er mwyn cael rhagor o brofiad.
Datgelodd yr Athro Morris bod gan y BBC diddordeb mewn dwy ffilm arall sy'n cael eu cynhyrchu gan yr ysgol ffilm.
Mae un ar y cyd gyda Heddlu Gwent am drais yn y cartref ac un arall gyda Phrifysgol Abertawe am weithwyr rhyw yng Nghymru.
Loserville ar BBC2 Cymru am 10am nos Fawrth, Mawrth 6 2012.