Cynlluniau ar gyfer twnelau newydd a lledu'r M4
- Cyhoeddwyd
Delio gyda thraffig ar un o ffyrdd prysuraf de Cymru yw pwrpas cynlluniau newydd ar gyfer traffordd yr M4 sy'n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
O dan ystyriaeth mae adeiladu twnelau newydd ym Mrynglas, gan olygu y bydd pedair lôn i'r ddau gyfeiriad yn ardal Casnewydd.
Opsiwn arall yw adeiladu ffordd ddeuol newydd i'r de o'r ddinas fel modd o leddfu traffig.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ymateb ar yr ymgynghoriad, sy'n canolbwyntio ar ddarn 13 milltir o'r draffordd.
Daw hyn wedi penderfyniad yn 2009 i ddileu ffordd liniaru, dolen allanol i'r M4.
Fel rhan o'r hyn sy'n cael ei awgrymu y mae codi dau dwnnel newydd ym Mrynglas, lle mae'r draffordd ar hyn o bryd yn ddwy lôn i bob cyfeiriad.
O ganlyniad i'r twnelau newydd fe fydd y draffordd yn cael ei lledu, gyda phedair lôn i bob cyfeiriad am naw milltir rhwng cyffordd 24 (Coldra) a chyffordd 29 (Cas-bach).
Byddai'r gwaith dros 15 mlynedd yn costio £550m.
Tân mewn twnnel
Arbenigwyr sydd wedi llunio'r cynlluniau, sy'n cynnwys y peirianwyr sifil Arup.
Mae arweinwyr busnes wedi rhybuddio bod tagfeydd yn yr ardal yn cael effaith negyddol ar economi de Cymru.
Mae 'na sawl achos diweddar wedi bod o orfod cau'r draffordd a thagfeydd sylweddol o ganlyniad i ddamweiniau.
Ac yn ystod haf 2011 fe fu'n rhaid cau'r twnnel wedi i lori fynd ar dân, dolen allanol yno.
Fe wnaeth y llywodraeth flaenorol wrthod cynlluniau i greu ffordd liniaru o amgylch Casnewydd am ei fod yn rhy ddrud.
Mae cynlluniau eraill yn cael eu hystyried erbyn hyn.
Un syniad arall yw adeilad ffordd ddeuol newydd i'r de o Gasnewydd.
Yn wahanol i'r ffordd liniaru, fyddai hon ddim yn draffordd ac yn cael ei hadeiladu mewn rhannau gan fod yn ddibynnol ar y galw.
Mae 'na opsiwn hefyd i wella'r gyffordd ar yr A48.
Yn wreiddiol, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mai'r unig ffordd i'r cynllun ddigwydd oedd petai ei lywodraeth yn cael yr hawl i fenthyca arian, ond dywedodd swyddogion yn ddiweddar ei fod wedi amddeall cwestiwn yn ystod cyfweliad gyda'r BBC.
'Blaenoriaeth'
Cychwynnodd y gwaith ym mis Chwefror ar addasu hen ffordd drwy safle hen waith dur Llanwern i fod yn ffordd ddeuol a fydd yn cysylltu'r draffordd gyda Chasnewydd i'r de o'r ddinas.
"Rydym i gyd yn ymwybodol o'r problemau tagfeydd ar y rhan yma o'r M4," meddai'r Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant.
"Mae lleihau'r tagfeydd rhwng Magwyr a Chas-bach yn un o flaenoriaethau'r llywodraeth ac yn addewid a nodwyd yn y Cynulliad Trafnidiaeth Cenedlaethol.
"Mae gwella mynediad i ysgolion, ysbytai a llefydd gwaith yn allweddol er mwyn gwella effeithiolrwydd a chynnyrch er mwyn bod yn gystadleuol."
Fe fydd teithwyr a thrigolion lleol yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar y cynlluniau diweddara mewn cyfres o weithdai ac arddangosfeydd tan Fehefin 6.