Cwmnïau celfyddydol wedi dod i ben wedi colli grantiau

  • Cyhoeddwyd
Cynhyrchiad Theatr GwentFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth gwaith Theatr Gwent i ben y llynedd

Blwyddyn ar ôl newidiadau mawr yn y ffordd mae'r celfyddydau yng Nghymru'n cael eu hariannu, mae pum cwmni wedi mynd i'r wal ar ôl colli eu grantiau.

Yn eu plith mae Theatr Gwent oedd yn arfer perfformio o flaen miloedd o blant ysgol bob blwyddyn.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dweud eu bod nhw'n siomedig ynglŷn â chwmnïau'n cau.

Ond maen nhw'n dweud eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd drwy ailstrwythuro'r system grantiau.

Fe fu Theatr Gwent yn mynd â chynyrchiadau theatrig i ysgolion am dros 40 mlynedd.

Dyma oedd eu bara menyn ac roedd dros 20,000 o ddisgyblion yn gweld eu cynyrchiadau bob blwyddyn.

'Anfodlon'

"Dwi heb dderbyn atebion derbyniol i'r hyn ofynnwyd a dydi'r Bwrdd Theatr Gwent ddim chwaith," meddai Gary Meredith, cyn gyfarwyddwr artistig Theatr Gwent.

"Dwi'n gwbl anfodlon gyda'r modd y cafodd y penderfyniad ei wneud ac yn gwbl anfodlon gyda'r rheswm gafodd ei osod i wneud y penderfyniad."

Collodd 32 o gwmnïau arian gan y Cyngor Celfyddydau'r llynedd.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Collodd 32 o sefydliadau a chwmnïau arian gan y Cyngor Celfyddydau y llynedd

Ymhlith y pum cwmni i ddod i ben o'r rhain y mae dau gwmni dawns, dau grŵp theatr a sefydliad celf gyhoeddus, Community Dance Wales, Welsh Independant Dance, CBAT, Theatr Powys a Theatr Gwent.

"Wrth i ni ail-drefnu roeddem yn edrych ar gyllido llai o gwmnïau yn well," meddai Ian Rees, Is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Fe wnaethon ni weithio gyda'r cwmnïau oedd yn colli cyllid refeniw i addasu ac mae nifer wedi addasu i allu parhau mewn bodolaeth.

"Ond mae'n drist gweld rhai cwmnïau yn mynd."

Blaguro

I gwmni fel Spectacle mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner drwy orfod chwilio am gyllid eu hunain yn ogystal ag ailddyfeisio'r gwaith maen nhw'n ei wneud.

"Yr hyn yr ydan ni yn gobeithio ei wneud dros y tair blynedd nesa' yw dibynnu llai ar grantiau ac ennill mwy o'n harian ein hunain," meddai Steve Davies, Spectacle Theatre.

"Mae gennym ni gynllun busnes cadarn yn ei le."

Ymhlith y cwmnïau eraill sydd wedi blaguro yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru y mae'r National Theatr Wales; Ballet Cymru a No Fit State Circus.

Ers y newidiadau mae grŵp o ASau yn bwriadu edrych ar y modd y mae'r diwydiant wedi addasu ac ar y modd y mae'r ddarpariaeth wedi ei effeithio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol