Rhybudd melyn am ragor o law trwm yn y de ddydd Sul

Bydd y rhybudd melyn yn dod i ben am 19:00 nos Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar hyd de Cymru ddydd Sul.
Daeth y rhybudd i rym am 08:00 fore Sul a bydd yn dod i ben am 19:00.
Mae llifogydd yn bosib mewn mannau tra bod rhywfaint o drafferthion ar y ffyrdd yn debygol, yn ôl y Swyddfa Dywydd,
Fe allai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd ac mae galw ar bobl i gynllunio a gwirio amserlenni cyn teithio.
Mae rhwng 10-20mm o law yn debygol yn ar hyd ardal y rhybudd, tra bod 35-45mm yn bosib ar dir uchel.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i 16 o siroedd ar hyd y de - Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Benfro, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Torfaen.
Daw'r rhybudd ond rai dyddiau ar ôl i law trwm arwain at lifogydd difrifol yn y de orllewin.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd29 Hydref
