Llywodraeth am gau ffatrïoedd Remploy ar ôl adolygiad
- Cyhoeddwyd
Mae bwriad i gau saith allan o naw ffatri Remploy yng Nghymru ar ôl adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Dywedodd y llywodraeth y dylai'r ffatrïoedd gau er mwyn buddsoddi arian sy'n cael ei arbed mewn cynlluniau fydd yn helpu pobl anabl gael gwaith.
Mae'r penderfyniad yn golygu bod swyddi 272 o weithwyr anabl yng Nghymru dan fygythiad.
Y saith safle wedi eu neilltuo yw Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen ger Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam.
Byddai safleoedd Y Porth yn y Rhondda a Chastell-nedd yn parhau ar agor.
36
Yng ngwledydd Prydain mae Remploy yn bwriadu cau 36 allan o 54 o ffatrïoedd sy'n golygu colli hyd at 1,700 o swyddi.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews: "Bydd effaith y cyhoeddiad ar weithwyr, teuluoedd a chymunedau'n ysgytwol.
"Yn ein tystiolaeth i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fe ddywedon ni ein bod yn gwrthwynebu cau'r ffatrïoedd yn chwyrn, yn enwedig o gofio'r sefyllfa economaidd a stad y farchad lafur.
"Rydyn ni'n gresynu nad oedd ymateb cadarnhaol i sawl cais gweinidogion o Gymru am ddeialog adeiladol am y mater."
"Mae AS Wrecsam, Ian Lucas, wedi beirniadu'r penderfyniad.
'Cynaliadwy'
"Rwy'n credu fod yna fodd i ffatri Wrecsam fod yn gynaliadwy," meddai. "Ddydd Gwener fe wnes i gwrdd â rheolwyr Remploy er mwyn trafod cytundeb mawr.
Byddai'r cytundeb yn golygu cyflenwi ceginau ar gyfer tai lleol.
"Roedd gweinidogion wedi gwrthod cydweithio, gan ddweud fod y sefyllfa yn cael ei hadolygu.
"Ond mae'n amlwg fod eu bwriad yn glir - y nod oedd cau'r ffatrïoedd.
"Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n fwy bodlon i rannu gwybodaeth er mwyn i mi geisio achub y safle."
Dywedodd Maria Miller, y Gweinidog dros Bobl Anabl, fod bwrdd Remploy yn bwriadu cau'r safleoedd erbyn diwedd y flwyddyn.
Gwnaed y penderfyniad, meddai, oherwydd na fyddai'r safleoedd yn gallu cynnal eu hunain yn ariannol fel unedau annibynnol.
£68.3m
Ychwanegodd fod y gyllideb o £320 miliwn ar gyfer cyflogaeth i'r anabl yn dal mewn grym.
Dywedodd y byddai'r arian yn cael ei wario yn fwy effeithiol.
Yn ôl y llywodraeth, mae tua 20% o'r gyllideb yn cael ei wario ar gynnal ffatrïoedd Remploy.
Y llynedd fe wnaeth y ffatrïoedd golled o £68.3 m.
Dywedodd Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Threfol nad oedden nhw byth yn credu y byddai llywodraeth yn cau sefydliad oedd yn rhoi gwaith i bobl anabl.
Yn ôl Phil Davies, yr ysgrifennydd cyffredinol: "Mae'r penderfyniad i roi'r sac i 1,752 o weithwyr mewn 36 o ffatrïoedd yn un o benderfyniadau gwaetha'r llywodraeth glymblaid ers iddi ddod i rym."