Disgyblion yn methu 'blwyddyn o addysg'

  • Cyhoeddwyd
Boys (generic)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

The NASUWT said truancy was a problem in some parts of Wales

Mae ffigyrau'n awgrymu bod disgyblion mewn rhannau o Gymru yn methu blwyddyn o addysg ar gyfartaledd oherwydd absenoldeb neu driwantiaeth.

Mae Rhondda Cynon Taf wedi lansio ymgyrch i geisio gwella safonau cyrhaeddiad plant.

Yn ôl eu hymchwil, o'r 12 mlynedd o addysg statudol y mae disgyblion yn ei dderbyn, dim ond am 11 mlynedd y mae'r disgybl yn bresennol ar gyfartaledd.

Y mis diwethaf, dywedodd y gweinidog addysg, Leighton Andrews na fyddai'n diodde' triwantiaeth yn y dyfodol.

Gwyliau

Dywedodd y cyngor pe bai gan ddisgybl record bresenoldeb o 94% - sy'n cyfateb i fethu 10 diwrnod y flwyddyn o'r ysgol - yna fe fyddai'n fwy tebygol o gael pump TGAU o raddau A*-C na phe bai y record yn 90%.

Ychwanegodd y cyngor bod mynd â phlentyn am bythefnos o wyliau yn ystod y tymor ysgol yn golygu na all eu record bresenoldeb fod yn well na 94%.

Dywedodd aelod o gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd â chyfrifoldeb am addysg, Eugene Hanagan:

"Gyda'r gystadleuaeth am brentisiaethau, swyddi lleoedd mewn colegau a phrifysgolion yn frwd iawn ar hyn o bryd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am weld pob disgybl yn gallu cystadlu gydag unrhyw blentyn arall ar draws y DU.

"Er mwyn gwneud hynny, mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg orau posib, ac er mwyn gwneud hynny rhaid i blant fynd i'r ysgol yn rheolaidd - nid yw absenoldeb yn dderbyniol.

"Mae methu diwrnod yr wythnos yn cyfateb i fethu chwarter blwyddyn o addysg."

Rhieni

Dywedodd Geraint Davies o undeb athrawon yr NASUWT bod gan rieni gyfrifoldeb i daclo problem triwantiaeth.

"Mewn rhannau o Gymru mae triwantiaeth ar gynnydd," meddai.

"Mae gan ysgolion amryw brosesau i ddelio gyda thriwantiaeth, ond mae'r rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb gyda'r rhieni.

"Mae tynnu plant o'r ysgol yn ystod y tymor am amryw resymau hefyd yn broblem, ac mae'r cyfan yn cael effaith ar addysg plentyn.

"Rwy'n siŵr y bydd athrawon yn cefnogi'r cyngor, ond rhaid cael cefnogaeth y rhieni er mwyn llwyddo gyda hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol