'Dylai'r Eglwys allu derbyn gwahaniaethau barn' - Archesgob Cymru

Archesgob Cymru, Cherry Vann Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cherry Vann yn cael ei gorseddu mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Casnewydd ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru, Cherry Vann wedi galw am "undod" a dweud bod angen i'r Eglwys Anglicanaidd ryngwladol beidio â chael ei "rhannu" oherwydd ei bod hi yn y swydd.

Wedi ei hethol ym mis Gorffennaf, Esgob Mynwy yw'r fenyw gyntaf i arwain yr Eglwys yng Nghymru, yn ogystal â'r gyntaf i fod mewn perthynas o'r un rhyw – datblygiad gafodd ei feirniadu gan rai lleisiau ceidwadol.

Ond wrth ymateb i'r sylwadau hynny'n gyhoeddus, dywedodd Cherry Vann mai dyma oedd "y rôl gywir i mi ar hyn o bryd, i'r Eglwys, ac i Gymru".

Daw hynny wrth iddi gael ei gorseddu mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Casnewydd ddydd Sadwrn, gyda disgwyl i gynrychiolaeth eglwysig a bywyd sifil yng Nghymru fod yno.

Yn wreiddiol o Sir Gaerlŷr, mae'r Parchedicaf Vann wedi bod yn Esgob Mynwy ers Ionawr 2020, ac roedd hi'n un o'r menywod cyntaf i gael ei gwneud yn offeiriad yn Eglwys Lloegr yn 1994.

Cyn gwasanaethu ym Mynwy – rôl y bydd hi'n parhau ynddi fel Archesgob Cymru – fe dreuliodd 11 mlynedd fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion.

Esgob Mynwy, Cherry VannFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Cherry Vann yw'r ddynes gyntaf i hawlio teitl Archesgob Cymru

Bydd y seremoni orseddu ddydd Sadwrn, meddai, yn "foment hanesyddol".

"Fe fydd e'n sicr yn achlysur tyngedfennol i mi, ac i Gymru, yr Eglwys yng Nghymru, a'r Gymundeb Anglicanaidd ehangach," meddai wrth BBC Cymru.

"Yn amlwg, mae 'na bobl sy'n dathlu'r ffaith fod gennym ni Archesgob Cymru benywaidd, ac Archesgob sy'n aelod o'r gymuned LHDT+ ac yn byw mewn partneriaeth sifil."

Gan ymateb i'r rheiny oedd wedi bod yn "llai cefnogol", dywedodd Cherry Vann ei bod hi wedi cymryd y rôl "oherwydd dyma beth mae Duw wedi fy ngalw i wneud".

"Ac rwy'n credu mai'r rheswm y cefais fy ethol i'r rôl yw oherwydd bod pobl yn yr Eglwys yng Nghymru yn ehangach yn teimlo'r un peth," meddai.

"Dyw e ddim oherwydd fy uchelgais i neu unrhyw fater arall, boed e'n rywedd neu rywioldeb."

Ychwanegodd y dylai'r Eglwys Anglicanaidd fod yn gyfforddus yn "byw gyda gwahaniaethau" barn.

"[Ddylen ni] ddim bod yn rhanedig dros y peth, ond dod rownd y bwrdd a siarad gyda'n gilydd, ceisio deall ein gilydd... a modelu rhywbeth am yr undod sydd gennym ni mewn Crist i'r byd rydyn ni'n byw ynddo."

'Rhaid i ni newid diwylliant yr Eglwys yng Nghymru'

Daeth Cherry Vann yn bennaeth ar yr Eglwys yng Nghymru wedi ymddeoliad y cyn-Archesgob Andrew John, ar ôl cyhoeddiad dau adroddiad wnaeth dynnu sylw at bryderon diogelu a chamymddwyn yng Nghadeirlan Bangor.

Roedd hynny wedi cyfrannu at "gyfnod cythryblus" i'r Eglwys, meddai'r Parchedicaf Vann, ond roedd ei blaenoriaeth hi nawr ar gymodi.

"Yn amlwg mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n newid diwylliant yr Eglwys yng Nghymru, fel ein bod ni'n sefydliad sy'n agored a thryloyw, ein bod ni'n dwyn ein hunain i gyfrif ac yn cael ein gweld yn gwneud hynny, a bod pobl yn gallu ymddiried ynddon ni fel sefydliad," meddai.

"Wedyn wrth gwrs mae ein prif genhadaeth, sef i ddatgan newydd da Iesu Grist... a rhannu hynny gyda phobl Cymru."

Ychwanegodd Cherry Vann ei bod hi'n awyddus i fod yn gynhwysol yn ystod ei chyfnod wrth y llyw.

"Hoffwn gael fy adnabod fel Archesgob sy'n cynnwys pawb," meddai.

"Nid fy lle i yw hi i gau unrhyw un allan o eglwys Duw, a byddaf yn gweithio mor galed â phosib i gadw pobl o fewn teulu'r Eglwys, a'u helpu nhw i deimlo croeso pwy bynnag ydyn nhw, a beth maen nhw'n ei gredu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig