'Mae'n bwysig cael laff gyda fy ffrind wrth alaru'

Yn ôl Geraint John mae'n bwysig cael ffrind sy'n gwrando with iddo alaru
- Cyhoeddwyd
Dydy hi ddim yn cymryd yn hir cyn i'r chwerthin ddechrau pan mae Geraint 'Baz' John a'i ffrind, y digrifwr Elis James, yn cwrdd ond galar ddaeth â'r ddau at ei gilydd.
Bu farw Deb, 42, gwraig Geraint a mam eu tri o blant ar ôl cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2022.
Maen nhw wedi adnabod ei gilydd ers chwarter canrif ac wedi marwolaeth Deb fe ddechreuodd Elis a Geraint sgwrsio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r ddau nawr yn bwriadu codi arian i'r hosbis wnaeth gefnogi Deb a'r teulu.
Elis James yn trafod pwysigrwydd cefnogi ffrindiau sy'n galaru
"Ar ôl i Debs farw o'n i'n dilyn Geraint [ar X] felly o'n i'n gwybod beth oedd e'n mynd trwyddo. Dechreuon ni siarad ar gyfryngau cymdeithasol, yna gofynnodd Baz [Geraint] os o'n i mo'yn cael peint gyda fe."
Mae'r ddau yn byw yn ne Llundain a'n aml yn cwrdd yng Nghlwb Pêl-droed Dulwich Hamlet.
Doedd Elis ddim eisiau anwybyddu sgyrsiau anodd gyda ffrind, meddai.
"Mae wedi digwydd mwy nag unwaith le fi'n nabod pobl sydd wedi colli rhywun, ac wedyn mae ffrindiau wedi anwybyddu nhw.
"O'n i ddim mo'yn bod yn un o'r anwybyddwyr. Chi ffaelu newid y sefyllfa so man a man bo chi 'na i wrando."

Bu farw Deb yn 42 oed yn 2022 o ganser y pancreas
Roedd y ddau yn byw yng Nghaerdydd ar ddechrau'r ganrif. Roedd Geraint yn rhedeg label recordio Booby Trap a'n rhan o'r grŵp Y Void. Fe wnaeth Elis wylio'r band yn perfformio yng Ngŵyl Roc y Cnapan yn Ffostrasol.
Yn ôl Geraint mae'r ddau yn "chwerthin lot", sy'n bwysig wrth iddo alaru. "Ni jest yn cael laff. Ni ddim jest yn gyrru yn y car yn crio."
Un jôc rhwng y ddau yw bod Elis yn gefnogwr brwd o dîm pêl droed Abertawe a Geraint yn cefnogi Caerdydd.

Roedd plant Deb a Geraint yn 15,11 ac wyth pan gollon nhw eu mam
Dywedodd Geraint, 43, bod nifer o'i ffrindiau wedi dweud wrtho mai fe ydy'r "blueprint" ar gyfer colli rhywun mor agos.
"Fi oedd y person cyntaf wnaeth golli rhywun. Mae lot o bobl ddim yn gwybod beth i ddweud na gwneud."
Ychwanegodd mae'n dda bod Elis "ddim o hyd yn cynnig cyngor ond yn gwrando".
Ers colli'i wraig yn 2022 mae Geraint wedi bod yn agored am fyw gyda'i alar wrth fagu tri o blant a oedd yn 15, 11 ac wyth ar y pryd.
Meddai Elis: "Mae plant gyda ni yr un oedran, maen nhw'n mynd trwy'r un pethau.
"Ond y gwahaniaeth yw yn amlwg maen nhw wedi colli'u mam.
"Ni'n aml yn trafod y pethau mae'r plant yn mynd trwyddo ond mae pethau mor wahanol i Geraint achos mae'r sefyllfa mor wahanol."

Dywedodd Elis nad oedd e am "anwybyddu" sgyrsiau anodd gyda ffrind
Mae'r ddau yn bwriadu cynnal ras yn ystod hanner amser un o gemau CPD Dulwich Hamlet i geisio codi £10,000 i'r hosbis lle bu Deb yn ei misoedd olaf.
Danfonodd Elis fideo o'i hun yn ennill ras y rhieni yn ysgol ei blant at Geraint. Fe ymatebodd yn dweud dylai'r ddau rasio yn erbyn ei gilydd i godi arian at hosbis St Christopher's yn ne Llundain.
"Mae'n eithaf od dweud hwn ond mae'n le rili lyfli. Oedd Debs mor hapus yna."
Ychwanegodd Elis: "Maen nhw'n gwneud gwaith sydd mor bwysig sy'n mynd i effeithio pawb. Chi ffaelu osgoi marwolaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd2 Mawrth
