Llys: 'Arteithio cyn marwolaeth'
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Abertawe mae rheithgor wedi clywed bod dynes 66 oed o Arberth, Sir Benfro, wedi cael ei harteithio i farwolaeth gan ddyn oedd eisiau arian i dalu am briodas.
Mae John William Mason, 55 oed o bentref Llandysilio, wedi gwadu llofruddio Angelika Dries-Jenkins yn ei chartref ym mis Mehefin y llynedd.
Clywodd y llys fod y diffynnydd i fod i briodi ychydig ar ôl y llofruddiaeth.
Yn ôl yr erlyniad, roedd wedi tynnu £1,000 o'i chyfrif banc ac wedi gwario'r arian ar alcohol a gamblo.
Dywedodd yr erlynydd, Patrick Harrington QC, fod Ms Dries-Jenkins wedi ei llofruddio ar Fehefin 1, ychydig o ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 67 oed.
Gorfodi
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi ei gorfodi i roi rhif ei cherdyn banc iddo cyn ei churo i farwolaeth a dwyn ei char.
Roedd hi wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.
Ei merch, Eleanor, ddaeth o hyd i'r corff ar Fehefin 3.
Yn ôl yr erlyniad, fe ddefnyddiodd y diffynnydd y cerdyn i godi arian o fanciau yn Hendy-gwyn ar Daf a Hwlffordd.
Clywodd y llys fod John Mason yn bwriadu priodi â'i ddyweddi Denise Evans ychydig dros wythnos ar ôl y llofruddiaeth.
Ond, meddai'r erlyniad, roedd ei sefyllfa ariannol yn wan iawn gan ei fod yn dibynnu ar daliadau budd-dal o £100 bob pythefnos.
Twyllo
Yn ôl yr erlynydd, roedd y diffynnydd, mab cymydog Ms Dries-Jenkins, wedi twyllo'r bensynwraig er mwyn cael mynediad i'w thŷ.
"Unwaith y cyrhaeddodd y tŷ fe ymosododd arni, gan ei churo ar ei phen. Ei brif reswm am lofruddio oedd arian.
"Ar ôl ei churo i farwolaeth fe wnaeth ddwyn ei bag llaw.
"Does dim dwywaith ei fod wedi ei harteithio er mwyn cael gwybod rhif PIN ei cherdyn banc."
Honnwyd bod y diffynnydd wedi defnyddio ei char er mwyn mynd i Hendy-gwyn ar Daf lle ceisiodd yn aflwyddiannus godi £500 a £300 o dwll yn y wal.
Ychydig yn ddiweddarach llwyddodd i godi ychydig yn fwy na £200 cyn gyrru i Hwlffordd lle cododd £50 arall.
Honnodd yr erlyniad fod y car wedi ei adael mewn maes parcio yn y dre.
Tag electroneg
Clywodd y llys i'r heddlu ddod o hyd i siwmper y diffynnydd mewn bin sbwriel yn y maes parcio a bod DNA y diffynnydd a Ms Dries-Jenkins ar y dilledyn.
Yn ôl yr erlyniad, roedd llwyth o dystiolaeth oedd yn caniatáu i'r heddlu wybod beth oedd symudiadau'r diffynnydd y diwrnod dan sylw.
Roedd yn gwisgo tag electroneg ar ôl iddo dderbyn gorchymyn cymunedol.
Mae'r achos yn parhau.